Print

Print


[kampys]

Tim

-----Original Message-----
From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Thursday, November 22, 2001 10:05 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: termau seineg


Ddrwg gen i am yr oedi - nawr dw i wedi anghofio dangos eich neges i'r
gwr.Dyma ei awgrymiadau:

>approximant (cytsain fel /r/, h.y. yr un a geir yn Saesneg (safonol))
Ai ansoddair ynteu enw yw "approximant"?  Ai "megis 'r'", h.y. "fel
enghraifft" a olygir?
Beth am "cytsain gyfagos"?

>lateral approximant (/l/, ...)
sain ochrol gyfagos

>tap/flap (yn debyg i seiniau trawol, ond efo un cyffyrddiad yn unig)
Well gan Bruce "trawiad" neu "tap" ond mae 'Termau Ieithyddiaeth' (Coleg
Prifysgol Cymru, Emrys Evans, Aberystwyth, 1987) yn rhoi "cysain
gnithiedig".

>hefyd, ydi rhywun yn gwybod beth ydi 'trwynol-eneuol' yn Saesneg (e.e. /µ/,
fel treiglad meddal ar /m/ yn Hen Gymraeg)?
"nasal-oral"

Gobeithio bod y rhain yn dal o ddefnydd ichi.

Ann