Mae'r cwestiwn yma'n un oesol mae'n debyg. Bu trafod arno ym mhapur newydd y Guardian yn ddiweddar. Ron i'n meddwl bod y gyfraith yn yr ynysoedd hyn wedi bod yn gweithredu ar y sail bod yna endid o'r enw "England and Wales", un arall sy'n cynnwys "England and Wales" a'r Alban ac yn cael ei nabod fel "Great Britain", a theyrnas wedyn sy'n cynnwys "Great Britain" a "Northern Ireland", sef yr "United Kingdom". Ond mae barn y Guardian yn wahanol: http://www.guardian.co.uk/Columnists/Column/0,5673,534975,00.html -----Original Message----- From: Tim Saunders [mailto:[log in to unmask]] Sent: 16 November 2001 12:55 To: [log in to unmask] Subject: Prydain Fawr Fy nealltwriaeth i oedd taw trosiad o 'Magna Britannia' oedd 'Prydain Fawr', ac i'r enw hwn gael ei fathu i ddynodi Ynys Prydain gan fod 'Britannia' yn Lladin Ôl-Ymerodrol yn dynodi Llydaw bron yn ddieithriad. Beth yw'r ffynhonell/awdurdod dros 'Prydain = Cymru a LLoegr, Prydain Fawr = Prydain a'r Alban'? Tim -----Original Message----- From: Muiris Mag Ualghairg [mailto:[log in to unmask]] Sent: Wednesday, November 14, 2001 8:26 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: DU Dylid osgoi defnyddio 'Prydain' os ydys yn sôn am y Deyrnas Unedig - nid yw Prydain a'r Deyrnas Unedig yn gyfystyr. Prydain = Cymru a LLoegr Prydain Fawr = Prydain a'r Alban Y Deyrnas Unedig (neu Gyfunol) = Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon Mae hyn yn glir o enw swyddogol y wladwriaeth sef yn Saesneg - The United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland. Mae'r goblygiadau cyfreithiol hyn yn bwysig, er enghraifft os bydd llyfr pensiwn yn nodi na ellir talu'r pensiwn y tu allan i Brydain Fawr, chewch chi mo'ch pensiwn yng Nghogledd Iwerddon! Cytunaf fod D.U. yn anodd i ddeall ar lafar ac felly byddwn yn awgrymu defnyddio'r Deyrnas Unedig. _____________________________________________________________________ This email has been scanned for viruses by the MessageLabs SkyScan service. For further details, please see http://www.gsi.gov.uk/main/gncnotices/gncinformationnotice5_2001.pdf, or contact your departmental help desk. The Message Labs trial has been extended until further notice. In case of problems, please call your organisations IT helpdesk.