Mae Glenys yn iawn - 'yn y D.U.' a ddywedir yn yr hysbyseb, nid 'yn y DU' (in the black!). Ken Owen Marian-glas -----Original Message----- From: Glenys Roberts <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] <[log in to unmask]> Date: 14 November 2001 10:39 Subject: Re: DU Beth am 'yn y D.U.'?! Glenys ----- Original Message ----- From: Kenneth Owen To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, November 14, 2001 10:15 AM Subject: DU Mae yna hysbyseb Gymraeg yn ymddangos ar S4C ar hyn o bryd sy'n cyfeirio at hyn a hyn o bobl yn mynd 'ar lein yn y DU' ac yn gwario ffortiwn. Mae rhywun yn hen gyfarwydd â chlywed 'in the UK' yn Saesneg ond mae'n chwithig dros ben clywed 'yn y DU' yn Gymraeg. Beth fyddai'n fwy Cymreig? A fyddai 'ym Mhrydain'; 'yng ngwledydd Prydain'; 'yn y Deyrnas Unedig/Deyrnas Gyfunol'? Mae gweld 'yn y DU' mewn dogfennau yn un peth, ond mae ei glywed ar goedd yn fater arall. Ken Owen Marian-glas