Sent: Wednesday, November 14, 2001 10:15
AM
Subject: DU
Mae yna hysbyseb Gymraeg yn ymddangos ar S4C ar hyn o bryd
sy'n cyfeirio at hyn a hyn o bobl yn mynd 'ar lein yn y DU' ac yn gwario
ffortiwn.
Mae rhywun yn hen gyfarwydd â chlywed 'in the UK' yn Saesneg
ond mae'n chwithig dros ben clywed 'yn y DU' yn Gymraeg.
Beth fyddai'n fwy Cymreig? A fyddai 'ym Mhrydain';
'yng ngwledydd Prydain'; 'yn y Deyrnas Unedig/Deyrnas Gyfunol'?
Mae gweld 'yn y DU' mewn dogfennau yn un peth, ond mae ei
glywed ar goedd yn fater arall.
Ken Owen
Marian-glas