Ddrwg gen i am yr oedi - nawr dw i wedi anghofio dangos eich neges i'r gwr.Dyma ei awgrymiadau: >approximant (cytsain fel /r/, h.y. yr un a geir yn Saesneg (safonol)) Ai ansoddair ynteu enw yw "approximant"? Ai "megis 'r'", h.y. "fel enghraifft" a olygir? Beth am "cytsain gyfagos"? >lateral approximant (/l/, ...) sain ochrol gyfagos >tap/flap (yn debyg i seiniau trawol, ond efo un cyffyrddiad yn unig) Well gan Bruce "trawiad" neu "tap" ond mae 'Termau Ieithyddiaeth' (Coleg Prifysgol Cymru, Emrys Evans, Aberystwyth, 1987) yn rhoi "cysain gnithiedig". >hefyd, ydi rhywun yn gwybod beth ydi 'trwynol-eneuol' yn Saesneg (e.e. /µ/, fel treiglad meddal ar /m/ yn Hen Gymraeg)? "nasal-oral" Gobeithio bod y rhain yn dal o ddefnydd ichi. Ann