Print

Print


Onid yw'n bosib dadlau dros
Cyngor ( Sir + enw ) => Cyngor ( treiglad ) => treiglad
yn arbennig pan mae'r cyfuniad ( Sir + enw ) yn hanesyddol/wedi
ymgaregeiddio?


Os am reol bendant: "Yr enw mae'r cyngor yn ei ddefnyddio sy'n gywir"


Bullock, David (OCG) [mailto:[log in to unmask]]


> O ran cystrawen...
>
> Sir + enw = treiglad.
> Cyngor Sir + enw = dim treiglad.
>
> O ran hanes, fe fydd unrhyw un oedd yn byw cyn 1974 yn cofio mai Cyngor Sir
> Môn, Cyngor Sir Mynwy etc oedd y cynghorau gwreiddiol yn ddigon didrafferth
> a diddadl.
>
> Erbyn ein hoes ni, mae gyda ni ddwy broblem.
>
> 1.  Mae gafael y rhan fwyaf o'r siaradwyr ar eu hiaith yn llai sicr, felly
> dyn nhw ddim yn gallu dadansoddi cyfuniadau gweddol elfennol fel yr un yma.
>
> 2.    Yn Neddf Ad-drefnu Llywodraeth Leol 199-rhywbeth a greodd yr
> awdurdodau lleol diweddara, rhoddwyd caniatâd i'r awdurdodau ddewis eu henw
> eu hunain.  Mae'r Ddeddf yn rhoi rhyw fformwla barod ar gyfer creu'r enw,
> ond drwy wneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, roedd yna gyfle i'r
> cynghorau newydd addasu'r enwau.  Felly er bod y mwyafrif yn cadw'r ffurf a
> roddwyd iddyn nhw drwy'r fformwla, mae ambell gyngor wedi newid eu henw.
> Dyna sut y cawson ni Cyngor Sir Ddinbych yn mynd yn groes i bron pawb arall.
>
>
> Enghraifft arall o ddywediad Bedwyr Lewis Jones am hawl y bobl leol i fod yn
> yn anghywir efallai?
>

> catrin alun [mailto:[log in to unmask]]
>
>>
>> All unrhyw un fy ngoleuo ynghylch pryd i dreiglo enwau siroedd a phryd i
>> beidio â gwneud!  e.e. Cyngor Sir Caerfyrddin/ Sir Gaerfyrddin?  Sir Penfro?
>> Oes yna unrhyw reol? - h.y. oes treigliad lle nad yw'r gair 'Cyngor' yn cael
>> ei ddefnyddio?
>>
>> Diolch
>> Catrin
>>
>