Mae gennyf Cysill a Word 97 - fel y tybiaf sydd gan y rhan fwyaf o bobl (neu fersiwn cynharach o Word + Cysill). A ydyw'r gwirydd sillafu hwn yn well na Cysill? Os felly, sut? Ydyw'r Gymraeg yn fwy cywir? Ydyw e'n cywiro gramadeg yn well? Hynny yw, pam dylwn i (neu rywun yn debyg i mi) newid i Word XP er mwyn cael y gwirydd sillafu hwn os nad yw'n well na Cysill? Muiris