On Thu, Oct 04, 2001 at 05:13:26PM +0100, Rowlands, Dyfed (OCG) wrote: > Oes rhywun yn gwybod a fydd acenion crom ar yr w a'r y yn rhan o Office XP > (neu Office 2000)? - h.y. bod modd cael acenion crom ar y llythrennau hyn yn > yr un modd ag ar gyfer llafariaid eraill, heb orfod defnyddio macro. Mae'r acenion ar gael ond does dim cyfuniad allwedd wedi ei osod ar ei cyfer e.e. CTRL+6,w, ond mae'n ddigon hawdd ychwanegu rheiny. > Ac os > oes modd, ydi hynny'n golygu y bydd modd cyhoeddi dogfennau ar y we trwy > gyfrwng rhaglenni megis Front Page heb i'r acenion hyn ddiflannu? Os oes wir angen defnyddio FrontPage (!) yna fe ddylai Frontpage 2000 newid yr acenion i HTML cywir (ond alla'i ddim profi hyn). Mae Word 2000 yn gwneud hyn ta beth, sef defnyddio endidau HTML ar gyfer symbolau Unicode. -- Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>