Pob Lwc! Tim O.N. Ydy'r ddogfen dan sylw yn cynnig ambell i ddiffiniad, cyd-destun, neu glem arall? -----Original Message----- From: John D Williams [mailto:[log in to unmask]] Sent: Wednesday, October 03, 2001 3:53 PM To: [log in to unmask] Subject: movements and shifts! O na fyddai'n braf medru cario ymlaen efo gwaith heb y problemau 'ma! Wele fy mhoen: "Make sure you can distinguish between movements along a demand curve and shifts in a demand curve." Roeddwn am ddefnyddio 'symudiadau' am 'movements' cyn troi at Y Termiadur Ysgol a gweld mai dyna ydy cynnig hwnnw am 'shifts'. Troi wedyn at Brucey a gweld mai 'symudiadau' ydy cynnig y llyfr gwych hwnnw am 'movements'. Wneith cynnwys 'symudiadau' ddwywaith yn y frawddeg Gymraeg ddim cyfleu'r un peth - oni bai mai'r un peth yw 'movements' a 'shifts' wrth gwrs! At Y Termiadur Ysgol rydyn ni i fod i droi wrth gyfieithu gwaith TGAU, ond gwaith Safon Uwch yw hwn a ninnau heb awdurdod terfyn i bob golwg. John.