Mae gen i ffotograff o arwydd a welais yn Llan-non, Ceredigion, ychydig flynyddoedd yn ol: Disyrru masnach. Diolch byth, yr oedd y fersiwn Saesneg ar gael hefyd. Disyrru = Difyrru = to entertain, to divert. Masnach = Traffic, fel yn "masnach cyffuriau". Felly "Diverted Traffic". Heddiw, mewn siop fach bopeth, gwelais nifer o faneri bach Cymreig ar werth. 'Roedd y siopwr di-Gymraeg am gefnogi'r iaith ac wedi'u hysbysebu'n ddwyieithog. Y Gymraeg: Llaesu Bach Cymreig. Llaesu = to flag. Mae bod yn berchen geiriadur yn beth peryg! Ann Corkett