I fod yn glir ynghylch pwy sy'n gallu defnyddio'r gwiriwr sillafu a'r cysylltnodwr Cymraeg Microsoft newydd, mae'n rhaid bod gennych fersiwn Office XP ar eich cyfrifiadur cyn i chi fedru ei lwytho oddi ar y we. Nid yw'n gweithio gydag Office 2000 a fersiynau cynharach. Os ydych chi'n gweithio mewn sefydliad lle rydych wedi'ch cysylltu â mewnrwyd, efallai fod Office XP eisoes ar eich mewnrwyd er nad yw ar eich cyfrifiadur personol chi. Mae hyn yn wir am fewnrwyd Prifysgol Cymru, Bangor er enghraifft. Byddai'n werth i staff sefydliadau eraill dynnu sylw eu rheolwyr rhwydwaith at y meddalwedd Cymraeg newydd, a'r angen am Office XP i'w redeg er mwyn i bawb fedru manteisio arno. Mae cymhorthion iaith fel hyn yn gymorth i weinyddwyr a staff ysgrifenyddol hefyd, nid dim ond i gyfieithwyr. Delyth