Annwyl Bawb,
Hanes ychydig o ymchwil bersonol yn
y gobaith y bydd o ddefnydd i eraill. Mae'n ddrwg
gen i os yw braidd yn hirwyntog.
Ysgrifennais at Fwrdd yr Iaith yn
ddiweddar yn gofyn a oedden nhw’n ymwybodol o feddalwedd sganio a fyddai’n
adnabod y Gymraeg – h.y. fel y gallwn weithio a+r testun wedyn, nid i’w
ffotocopļo yn unig. Cefais ateb gan
Colin Jones yn dweud eu bod nhw’n defnyddio Textbridge Pro 9.0, oedd yn
gweithio’n iawn, er bod Textbrdige Pro Millenium, sydd ar gael erbyn hyn, i fod
yn well, ond yn costio tua £40-£50.
Methais ddod o hyd i son am
Textbridge Pro 9.0 ar y we, a’r fersiwn arall yn amlwg yn ddrud. O’r diwedd cefais rif ffon Cymorth
Dechnegol y cwmni ym Mrydain, Scansoft, a holi yno. Cadarnhaodd y ferch mai dim ond y math
diweddaraf yr oedd y cwmni’n ei werthu erbyn hyn, ei fod yn costio tua £60, ac
na fydden nhw’n ystyried y Textbridge 1.1 (a gefais ar fy sganiwr) yn ddigon
diweddar i haeddu “Diweddariad” yn lle prynu o’r newydd. Dywedodd y gall yr hen fersiwn fod ar
gael mewn rhai siopau o hyd, ond byddai’r fersiwn newydd yn gweithio’n well efo
Windows 2000, sydd gen i. Cefais
ganddi rif ffon yr adran werthu, sef: 0870-870-8085.
Yno cefais gadarnhad bod Textbridge
Millenium Pro yn gweithio efo’r Gymraeg.
Dw i’n meddwl mai £49.99 oedd y pris a gefais – ond cefais gynnig gwell
gan y ferch. Mae Pages Pro
Millenium Upgrade, sydd yn cynnwys y rhaglen yna a rhai pethau eraill, ar gynnig
arbennig am £19.99 (+£3.75 post).
‘Roedd hi’n fodlon derbyn bod Textbridge 1.1 yn ddigon da imi haeddu
diweddariad, a wnes i ddim dadlau efo hi!
Gofynnais am faint yr oedd y
cynnig yn debyg o barhau a dywedodd
bod y cwmni’n tueddu i gadw cynigion i fynd tra roeddent yn boblogaidd “but this
one’s starting to fade”.
Alla i ddim cadarnhau y bydd popeth
yn gweithio’n iawn nes fy mod i’n derbyn y meddalwedd (gallaf ei ddychwelyd o
fewn 30 niwrnod os nad wyf yn hapus).
Efallai hefyd, ni fyddai’r un mor bwysig i’r rhai ohonoch sy’n cyfieithu
o’r Saesneg i’r Gymraeg yn bennaf ag y mae i fi, sy’n arbenigo ar gyfieithu yn y
cyfeiriad arall, ond mi fuasai’n drueni ichi golli’r cyfle trwy beidio a chlywed
amdano.
Hwyl,
Ann Corkett