Print

Print


newydd gofrestru i'r gwasanaeth hwn.

yma yn y coleg bydda i'n defnyddio cyhoeddi pen desg am desktop
publishing.  dw i'n gweithio ar ddesg bob dydd, mae'r cyfrifiadur yn
esitedd ar ben desg, ac nid bwrdd (lle bydda i'n bwyta neu gael paned),
felly mae'n taro fi braidd yn od bod cyhoeddi pen desg yn cael ei gwrthod
yn y modd 'ma.

edrychaf ymalen at y drafodaethau ar dermau eraill yn y dyfodol.

On Fri, 20 Jul 2001 17:35:12 +0100, Dafydd Roberts <[log in to unmask]>
wrote:

>Iawn ta...
>
>Desktop (fel yn "Windows desktop") => bwrdd gwaith
>
>Desktop publishing => Cyhoeddi pen bwrdd   [ynteu  cyhoeddi pen-bwrdd?]
>
>Ac nid    "cyhoeddi pen desg"  neu  "cyhoeddi top desg" !!!
>
>
>Dafydd Roberts
>
>
>
>
>On Fri, 20 Jul 2001, Dafydd Tomos wrote:
>
>> On Fri, Jul 20, 2001 at 03:38:08PM +0100, Delyth Prys wrote:
>> > Ystyr 'desktop' yn y cyd-destun cyfrifiadurol yw fod sgrin y
cyfrifiadur
>> > bellach yn fwrdd lle rydym yn gwneud ein gwaith.
>>
>> Na, ystyr 'desktop' (desktop computer a desktop publishing) yw'r
>> ffaith fod cyfrifiadur wedi dod yn ddigon bach a phwerus (yn yr 80au
>> cynnar) i ffitio ar 'ben' bwrdd ond gyda'r gallu i wneud tasgau fel
>> cysodi a chyhoeddi.
>>
>> Mae 'desktop' ar y sgrin yn rhywbeth ddaeth fewn yn y 90au. Mae 'bwrdd
>> gwaith' yn derm eitha addas ar gyfer hwnnw.
>>
>> Dwi wedi clywed y term 'cyhoeddi pen bwrdd' ers yr 80au hwyr.
>>
>> --
>> Dafydd Tomos                                <URL:http://www.fydd.org/d/>
>>
>
>Hwyl,
>
>Dafydd
>___________________________________________________________________________
>Dafydd Roberts
>Applications Support Manager                         [log in to unmask]
>IS/Computing Laboratory, Sackville Rd                 phone:   01248 382410
>Coleg Prifysgol Cymru - University of Wales        (non-UK):+44 1248 382410
>BANGOR                                                  fax:   01248 383826
>Gwynedd LL57 1LD