Print

Print


Mi fyddan nhw'n galw glan Llyn Tegid yn 'foreshore' wastad, felly mae ganddo
ystyr gwahanol i 'seashore', mi dybiaf.  'Blaendraeth' y bu Parc Eryri yn ei
ddefnyddio ers tro. 

Non Tudur

> -----Original Message-----
> From: Elin Meredith [SMTP:[log in to unmask]]
> Sent: Wednesday, April 25, 2001 1:00 PM
> To:   [log in to unmask]
> Subject:      Re: foreshore licence
> 
> Yn ol fy ngeiriadur Saesneg, yr un ystyr gyfreithiol sydd i foreshore a
> seashore - ydy 'glan y môr' neu 'draeth' yn dderbyniol fell?
> 
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> including [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Tim
> Saunders
> Sent: 25 April 2001 11:57
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: foreshore licence
> 
> 
> On Tue, 24 Apr 2001 10:09:00 +0100, Delyth Prys <[log in to unmask]>
> wrote:
> 
> >Mae Rhestr Termau Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhoi 'blaendraeth'
> am 'foreshore'.
> >Mae'r rhestr hon yn cael ei pharatoi ar gyfer ei chyhoeddi ar hyn o bryd
> gan y Ganolfan Safoni Termau.
> >
> >Gellid dehongli'r 'blaendraeth' yma i fod naill ai'n enidol (trwydded
> sy'n
> perthyn i/ymwneud â'r blaendraeth) neu'n ansoddeiriol (math o drwydded).
> Mae'n amlwg fod 'trwydded bysgota' a 'trwydded deledu' wedi cael eu
> dehongli'n ansoddeiriol (mathau gwahanol o drwyddedau) ac felly
> byddai 'trwydded flaendraeth' yn gweddu i'r patrwm hwn. Wrth gwrs petai
> sôn
> am drwydded sy'n perthyn i flaendraeth arbennig e.e. 'trwydded blaendraeth
> Llanbedrog', yna mae'r defnydd yn amlwg yn enidol yn y fan yna...
> >
> >  ----- Original Message -----
> >  From: Gwen Evans
> >  To: [log in to unmask]
> >  Sent: Monday, April 23, 2001 7:34 PM
> >  Subject: foreshore licence
> >
> >
> >  Trwydded sy'n rhoi'r hawl i gychod i ddefnyddio'r traeth - Trwydded
> blaen traeth / Trwydded flaen traeth ?  Mae 'trwydded bysgota ' a
> 'trwydded
> deledu' yn swnio'n iawn. Ydy'r 'blaen traeth' yn ansoddeiriol hefyd, neu
> ydw i wedi drysu?  Diolch.
> >
> 
> Beth fyddai'r ffordd orau o gyfieithu 'Persons taking sand from the
> foreshore will be taken a poor view of'?
> 
> Tim
Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni cheir
yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat yw
hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y
cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy
gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges.
Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei
chopïo, ei datgelu neu ei dosbarthu.
Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views of
the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park
Authority. This is a private message intended for the named addressee(s)
only. Its contents may be confidential. If you have received this message in
error please reply to say so and then delete the message. Any use, copying,
disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.