Magi
Wel, dwi'n cytuno efo'r hyn s'gen ti mewn gwirionedd. Dwi ddim
yn meddwl i mi esbonio'r broblem yn iawn a dweud y gwir.
Yn y ddogfen Saesneg dan sylw, mae'r fersiwn llawn a'r acronym
i'w gweld bron bob tro (dianghenraid o ystyried y gynulleidfa - athrawon ac
ati). Rhyw feddwl oeddwn i bod "anhwylder diffyg
canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)" am "attention deficit
and hyperactivity disorder (ADHD)" lawer gwaith ar un dudalen yn
mynd dros ben llestri braidd, ond mi wyddost fel mae hi: yn anffodus mae na
lawer o ddeiagramau ac ati ar y ddogfen, a siars i drio cadw popeth tua'r un
maint, gan na fydd na neb yn ail-ddylunio'r ddogfen i ffitio'r geiriau
Cymraeg!
Unrhyw farn?