Print

Print


    Magi
    
    Wel, dwi'n cytuno efo'r hyn s'gen ti mewn gwirionedd. Dwi ddim yn meddwl i mi esbonio'r broblem yn iawn a dweud y gwir.
    
    Yn y ddogfen Saesneg dan sylw, mae'r fersiwn llawn a'r acronym i'w gweld bron bob tro (dianghenraid o ystyried y gynulleidfa - athrawon ac ati).  Rhyw feddwl oeddwn i bod "anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)"  am "attention deficit and hyperactivity disorder (ADHD)"  lawer gwaith ar un dudalen yn mynd dros ben llestri braidd, ond mi wyddost fel mae hi: yn anffodus mae na lawer o ddeiagramau ac ati ar y ddogfen, a siars i drio cadw popeth tua'r un maint, gan na fydd na neb yn ail-ddylunio'r ddogfen i ffitio'r geiriau Cymraeg! 
    
    Unrhyw farn?