"Swyddog Gorfodi" buaswn i'n tybio sydd orau yn yr achlysur hwn gan mai'r swyddog sy'n gorfodi'r cyhoedd i gydymffurfio gyda'r gwahanol rheoliadau. Ond hoffwn i gael barn gramadegwr hefyd. David A.Thomas David A.Thomas Policy Unit Uned Polisi Tredomen Tredomen Extension 4353 Estyniad 4353 E-mail [log in to unmask] E-bost [log in to unmask] > ---------- > From: Tim Saunders[SMTP:[log in to unmask]] > Reply To: [log in to unmask] > Sent: Thursday, November 02, 2000 09:57 > To: [log in to unmask] > Subject: RE: Enforcement Officer > > Fel mater o gywirdeb, p'un sydd orau 'swyddog gorfodaeth' ynteu 'swyddog > gorfodi'? Gallaf weld dadleuon ar y ddwy ochr, ac wedyn pan edrychwn ar > ymadroddion cyffelyb o feysydd eraill fe welwn gynseiliau digon cadarn > dros y ddwy. > > Cymerwn, er enghraifft, 'swyddog cofrestru' a 'swyddog profiannaeth'. > Tybed a yw'r gwahaniaeth yn tarddu o'r ffaith fod y swyddog cyntaf yn > *cyflawni'r* weithred o ychwanegu enw (a manylion eraill) i restr > bwrpasol, a bod yr ail yn gyfrifol am *oruwchwylio*'r brofiannaeth, sydd > wedi'i gosod gan y llys tra bo dedfryd arall yn cael ei atal yn ystod > ymddygiad da troseddwr a ddyfarnwyd yn euog? Os felly, mae'n debyg taw > 'swyddog gorfodi' fyddai orau. Ond os wyf i wedi camddeall yr egwyddor ar > waith yma, os gwn i a fedr rhyw ramadegwr caredig fy ngoleuo? > > Tim > > >>> "Crowe, Richard (OPO)" <[log in to unmask]> 11/01/00 > 01:22pm >>> > On cofiwch fod yna fath beth â 'compliance officer'. > > -----Original Message----- > From: Tim Saunders [mailto:[log in to unmask]] > Sent: 01 November 2000 11:53 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Enforcement Officer > > > Yr aelodau o'r cyhoedd (gobeithio!) sy'n gwneud y cydymffrufio a'r > ufuddhau, > o dan orfodaeth y swyddog. > Tim > > >>> Neil Shadrach <[log in to unmask]> 11/01/00 11:48am >>> > Ysgrifennodd Tim: > > Mae'r sawl sy'n 'gorfodi', mewn cyd-destun cyfreithiol, yn peri i bobl > gydymffurfio > > =E2 rhyw reolau neu'i gilydd. > > Onid yw hynny yn awgrymu "Swyddog Cydymffurfiaeth/Cydymffurfio"? > > > > %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%