Ynghanol drysni technolegol a amwysedd ystyr
geiriau a thermau'r we, rydw i'n trio dod i ryw fath o gyfaddawd 'user
friendly' ar gyfer safle addysg awdurdod lleol rydw i wrthi'n ei gyfieithu.
Tybed fase rywun yn fodlon darllen y sylwadau yma a bwrw ryw
oleuni ar fy mhenblethu, boed yn wfftio neu'n gytuno, os gwelwch yn
dda?
'cyrchu' a 'chyrchiad' am 'access'
- Yn anffodus, er mod i'n hoff
iawn o'r gair cyrchu, mae gen i deimladau negyddol iawn am yr
ymadrodd 'cyrchu'r we', 'cyrchu gwefan' ayb. I mi, mae cyrchu yn
golygu:
a) cyrchu i/at rywle, h.y. mynd tuag at le
arbennig.
b) cyrchu rhywbeth h.y. mynd i nol rhywbeth,
neu estyn rhywbeth.
c) taith
ymosodol, e.e. ymgyrch, cyrch awyr a ballu.
h.y. gweithredoedd sy'n golygu eich bod yn symud yn
gorfforol o un lle i'r llall.
Efallai mod i'n rhy bedantic a bod modd plygu
ac addasu ystyron, ac y gallech chi ddadlau eich bod chi'n 'mynd tuag at y
we', neu'n 'mynd i nôl y we' (??), ond beth sydd o'i le efo 'cysylltu efo'r
we/efo safle', 'defnyddio'r we', 'gweld neu edrych ar safle', neu hyd yn
oed 'ddarllen tudalen'?
Teimlo ydw i, yn gam neu'n gymwys, fod gwasgu
gair ac ystyr Cymraeg i batrwm Saesneg fel hyn rwbeth yn debyg i
drio gwasgu jeli siap cwningen i
mewn i fowld siap crwn - mi 'neith o fynd and dydi o ddim yn edrych cweit yn
iawn.
Mae cyrch hefyd yn gallu bod yn ansoddair sy'n
golygu uniongyrchol, felly allech chi gyfieithu 'direct access'
fel 'cyrch cyrch'?!
Dwi'n gwybod bod y Termiadur, Geiriadur yr Academi
a nifer o eiriaduron eraill yn son am gyrchu a chyrchiad ond dwi di rhoi fy
nghas arno fo, a dyne ni. Os all rywun achub cam yr ymadrodd yma
dwi'n berffaith barod i wrando ac i dderbyn bod fy
nheimladau'n afresymol.
TGC neu TGCh - Technoleg Gwybodaeth Cyfathrebu neu Dechnoleg Gwybodaeth a
Chyfathrebu (Geiriadur y Cynulliad)?
Website - Gwefan, safle gwe, safle we, safwe
neu safle ar y we?
Ydi'r treiglad yn safle we yn gywir?
Chat room - Siop siarad? Stafell sgwrsio - unrhyw syniadau?
Links - 'dolennau' neu
'cysylltiadau' - Unwaith eto oes raid dilyn
y Saesneg yn slafaidd? Mae cysylltiad yn cael ei ddefnyddio am
gymaint o bethau eraill ac mae rhai pobl yn tueddu yn erbyn y gair dolen am ei
fod yn cyfleu dolen drws neu ddolen mewn cadwyn. Oes modd defnyddio rywbeth fel
safleoedd neu wefannau cyswllt? Neu mae jyst dweud
safleoedd/gwefannau weithiau'n ddigon yn y Gymraeg lle mae 'Links' yn
deitl i restr o wefannau defnyddiol/perthnasol yn Saesneg. Unrhyw
awgrymiadau?
Home - Hafan v Cartref
Upload a Download - Yn ol be dwi'n ei ddeall, ystyr upload yn syml iawn ydy rhoi tudalen
neu safle ar y rhyngrwyd, h.y. trosglwyddo ffeiliau o'ch cyfrifiadur i'r we
a download ydy'r gwrthwyneb, sef tynnu ffeiliau oddi ar y rhyngrwyd a'u
rhoi ar eich cyfrifiadur personol. Ydy llwytho i lawr a llwytho i fyny, heb son
am fod yn drwsgl, yn addas felly? Os oes rhaid bod yn dechnegol, cynnig yr
uned gyfieithu yma oedd dadlwytho am download, a mewnlwytho am
upload. Onid ydi 'llwytho' ar ei ben ei hun yn golygu llwytho i mewn i
rywbeth arall beth bynnag?
Mi fuaswn i'n gwerthfawrogi'n fawr petai rhywun yn
fodlon helpu ychydig arna i cyn i mi ddrysu'n lan, colli cwsg a meddwl am restr
mwy hirfaith fyth i ddiflasu pawb.
Diolch yn fawr,
Yn gywir
Elin Meredith