ANN: I ddechrau, llongyfarchiadau i chi, sy'n Saesnes, am eich Cymraeg llachar. Wir, mi fuaswn i'n falch eithriadol pa bai safon fy Saesneg i cyn gystal. Tarddiad ysgeler y gair, "slafaidd", sydd yn 'y mhoeni i, dim cymeriad y sawl sy'n ei ddefnyddio. Gyda llaw, ble mae Bruce yn llechu?? MT Ann Corkett wrote: > Efallai mod i'n haeddu cerydd MT am fy nefnydd diog o "jyst" a "ffitio". > Ond peidied a^'m beio am ddefnyddio "slafaidd" > - gair sydd wedi'i ddefnyddio yn y Gymraeg i olygu "slavishly" ers dros dri > chan mlynedd. > > Gallaf fod yn ddiamynedd,ac yn bendant yn rhy siaradus, > ond nid wyf yn cofio imi feirniadu unigolyn yn gyhoeddus am safon ei > Gymraeg > - 'rwy'n rhy ymwybodol o'm ffaeleddau fy hun. > Os ydwyf wedi brifo rhywun yn anfwriadol, yna mae'n ddrwg gen i; > weithiau gall rhywun swnio'n fwy llym "ar bapur" nag y mae'n ei fwriadu. > Mae MT wedi apelio cyn rwan am fwy o hiwmor yn ein trafodaethau; > efallai imi gymryd ei sylwadau'n ormod o ddifrif. > Anodd gennyf gredu ei fod am gyhuddo Bruce na finnau o fod ag agwedd, > "hilyddol, gi"aidd (a) Seisnig" (er, wrth gwrs, Saesnes ydwyf), > ond mae'n hawdd iawn darllen ei neges fel 'na. > > Gyda llaw, nid at y tuedd i gymreigio geiriau Saesneg y cyfeiriwyd yn fy > neges. > Mae'r Saesneg a^ thuedd i bentyrru geiriau sy'n golygu'r un peth . > Mae rhaid ystyried a oes angen diffinio "term" Cymraeg ar wahân i gyfateb i > bob un, > neu a oes modd dweud yr un peth yn fwy syml a naturiol. > > Ann (heb yr "e", gyda llaw) %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%