Print

Print


Hmm. Rwy'n gweld y gallai'r ymadrodd 'diogel rhag' fod yn atyniadol mewn rhai cyd-destunau, ond y byddai hynny'n aml yn tanseilio hanner diben termau technegol, sef cadw mynegiant yr ymadrodd mor gryno ag y bo modd.

Fodd bynnag, nid mater o 'ddilyn y Saesneg yn slafaidd' mono, gan fod yma wahaniaeth sylweddol (a all fod o dragwyddol bwys ar adegau) a berchir gan ieithoedd eraill hefyd. E.e. yn y Wyddeleg, defnyddir 'sábháilteacht' am 'diogelwch', sef materion yn ymwneud a glendid, iechyd, damweiniau, dulliau gweithio, tramwyo, traffig, ayyb. Mae 'slándáil', ar y llaw arall, yn ymwneud â thorcyfraith, gwleidyddiaeth, materion milwrol a pharamilwrol - yn y bôn. peryglon sy'n codi o falais ddynol yn hytrach na ffaeleddau a thwpdra pobl ac amherffeithrwyd pethau. O ganlyniad fe wyr gwrandawyr Raidió na Gaeltachta, o glywed bod gwleidydd yn y Gogledd wedi beiriniadu 'an fórsaí slándála', nad at y Frigâd Dân na'r Gwasanaeth Ambiwlans y mae'r brawd yn cyfeirio. 

Ar yr un pryd, byddai'r Heddlu (er yn rhan o'r lluoedd diogeledd) yn cael eu cyfrif dan amgylchiadau eraill gyda'r diffoddwyr a'r criwiau ambiwlans fel rhan o'r 'séirbhísí éigeandála' - 'gwasanaethau brys'. 

Gan ein bod ni ar y trywydd yma, tybed a oes syniad gyda rhywun am sut mae gwahaniaethu rhwng 'event' ac 'incident'? Mae pethau o'r dosbarth cyntaf wedi'u trefnu ymlaen llaw gan rai a chanddynt hawl i wneud hynny - adloniant, chwaraeon, carnifalau, gwasanaethau crefyddol, seremonïau Derwyddol, eisteddfodau, ayyb ('imeachtaí' yn Wyddeleg). Mae'r ail ddosbarth ('eachtraí' yn Wyddeleg) yn cynnwys pethau oedd ddim i fod i ddigwydd - damweiniau, troseddau, ymosodiadau milwrol a pharafilwrol.

Tim
>>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 10/27/00 11:29am >>>
Sgwrs yng nghartref y Griffithsiaid:

B:  Pam mae angen dilyn Saesneg yn slafaidd?  Sut y gall rhywbeth fod yn
"safe" heb fod yn "secure"?

A:  Mi all adeilad fod yn lle diogel i weithio, heb fod yn "secure" rhag
lladron.

B:  Yr ateb, felly, yw defnyddio "diogel rhag (beth bynnag yw'r perygl).

Nid yw "yn ddiogel rhag niwed a rhag crwydro" yn swnio'n iawn rywsut, os
mai dyna ystyr "safe and secure".  Efallai byddai jyst "cadw nhw rhag niwed
a rhag crwydro" yn iawn.  Awgrym arall gan Bruce yw "yn ddiogel a dianaf",
ond chi sy'n gwybod a yw un o'r rhain yn ffitio'r cyd-destun.

Ann









%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%