Oes rhywun wedi clywed am y term 'pedestrian table'? Yr hyn mae'n ei olygu yw codi rhan o'r ffordd ar hyd ymyl adeiladau cyhoeddus (e.e. arcêd, neuadd) i'r un lefel â'r palmant, er mwyn rhoi blaenoriaeth i gerddwyr yn hytrach nag i geir. Rhaid i geir arafu ar y rampiau, yn hytrach na bod yn rhaid i bobl gerdded ar hyd palmant wedi'i ostwng. Dyw e ddim yn derm cyffredin yn ôl ein Rheolwr Adeiladau ac ni allaf ei weld ar restr Termau Priffyrdd y Canolfan Safoni Termau. Unrhyw gynigion? Beth am 'gyforbarth' yn arddull cyforgors, cyfordraeth ac ati? > -----Original Message----- > From: Crowe, Richard (OPO) [SMTP:[log in to unmask]] > Sent: Monday, October 23, 2000 9:53 AM > To: [log in to unmask] > Subject: RE: Help! > > Dw i'n cytuno a'r awgrym yngyhlch teitlau'r e-byst - rhoi'r term ei hun yn > deitl fyddai fy newis i. > > -----Original Message----- > From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]] > Sent: 20 October 2000 19:54 > To: welsh-termau-cymraeg > Subject: Help! > > > Mae Bruce yn awgrymu "segurdod economaidd" ac "economaidd segur" - os yw'r > cyd-destun yn gofyn am yr "economaidd" o gwbl, e.g. the life of the region > is economically inactive = Mae bywyd ... yn segur", gweler. hefyd > ffatrioedd segur ayb. > > Gyda llaw, a fyddai'n bosibl, os gwelwch yn dda, roi teitl i'r neges sydd > yn ei wahaniaethu oddi wrth yr holl negeseuon eraill sy'n gofyn am help? > Y > term Saesneg, os oes un arbennig, efallai, neu'r maes, os oes sawl un? > Mae'n gwneud pethau'n haws wrth edrych yn o^l trwy'r ffeiliau. > > Ann Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni cheir yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat yw hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges. Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei chopïo, ei datgelu neu ei dosbarthu. Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views of the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park Authority. This is a private message intended for the named addressee(s) only. Its contents may be confidential. If you have received this message in error please reply to say so and then delete the message. Any use, copying, disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden. %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%