Print

Print


Diolch yn dwlpe i Delyth am y wybodaeth. Tybed a wyr rhywun a fo'r'r gair 'goddefiant' yn cael ei ddefnyddio mewn llyfrau ar waith metel ayyb? (Roedd llyfr eithaf defnyddiol gyda fi ar y pwnc ar un adeg, ond och! fe fues i mor ffôl a'i roi'n fenthyg i rywun.). 
Tim

>>> "Delyth Prys" <[log in to unmask]> 10/17/00 01:06pm >>>
mae 'trachywiredd' am 'precision' yn y Termiadur yn perthyn i faes
peirianneg, fel y noda Tim . Mae wedi'i ddefnyddio ers blynyddoedd yn yr
ysgolion mewn technoleg, a chyn hynny gwaith coed a gwaith metel.  Yng
nghyd-destun sgiliau cyfrifiadurol, mae 'cywirdeb' neu 'manwl gywirdeb' yn
ddigonol. Dw i ddim yn credu bod fawr o wahaniaeth ystyr yma ychwaith rhwng
y 'precison' a'r 'accurately' - gan gofio'r egwyddor o gyfieithu'r ystyr,
nid y gair.
Petai Tim wedi edrych yn ei Dermiadur, byddai wedi gweld fod 'tolerance' yno
(of measurements) - goddefiant, o'i gyferbynnu â tolerance (of people) -
goddefgarwch.
Delyth Prys





%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%