Print

Print


David,

Dyw Brad  ddim yn llawer o help, gan fod yr hanes i gyd yn digwydd ar y lefel uchaf. (Gyda llaw, rwy'n credu i SL fod yn ddoeth wrth beidio â chyfieithu'r gair Ffrangeg corps  yng nghyd-destun 'corps  y swyddogion', gan fod pwyslais y Fyddin Brydeinig ar y gatrawd fel rhyw fath o 'deulu' yn hytrach nag fel uned weithredol yn cau allan i raddau helaeth unrhyw ymdeimlad o'r swyddogion fel haen neu ddosbarth gyda hunaniaeth neilltuol. Mae'r defnydd o'r gair 'Corfflu' ar wefan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cadarnhau hyn, gan fod y term hwnnw yn dynodi canghennau penodol o'r Fyddin megis y Corfflu Arfog Brenhinol, sydd i bob diben ymarferol yn gatrodau ynddyn nhw'u hunain. 

Mae 'adain' fel trosiad i ala  yn gwneud llawer iawn o synnwyr yn nhermau dulliau ymladd y Rhufeiniaid. Tybed a fyddai'n well cadw'r gair hwn felly at unedau yn y gwyr meirch?

Tim

>>> "Bullock, David (OCG)" <[log in to unmask]> 09/19/00 12:07pm >>>
Tim

Sdim termau parod gan lefarwyr y Fyddin eu hunain - yn Aberhonddu mae'n
debyg - oes e?  Neu a fyddai rhai o ddramâu Saunders Lewis (Brad?
Blodeuwedd?) yn ffynhonnell? 

Wi wedi defnyddio "adain" mewn cyfieithiad ar ran yr Amgueddfa ynghylch y
llengoedd Rhufeinig, ond cyfieithiad o'r gair Lladin "ala" oedd hwnnw, sef
mintai o wyr meirch rwy'n credu.  Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael o waith
Cicero sy'n cynnwys rhywfaint o eirfa filwrol, ond unwaith eto, geiriau am
adrannau byddinoedd y rhufeiniaid fyddai'r rheiny.

Mae Divisions a sections ar gael yma yn y Cynulliad, sef Adrannau ac
Is-adrannau yn y drefn honno - ond dwy ddim yn honni bod yr un ateb o unrhyw
iws yn dy gyd-destun di.






%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%