Mae gen i rai termau sy'n achosi penbleth i mi ar hyn o bryd - unrhyw gynigion? Engaging the community - ymgysylltu â'r gymuned sydd gen i ar hyn o bryd, ond dydwi ddim yn rhy hapus. joined-up government - cydgysylltiedig efallai? Neu a oes term yn bod eisoes? outsourcing ydy'r llall - dwi wedi cynnig alldarddu - ond mae'n air mor od hyd yn oed yn Saesneg! Dwi'n siwr y bydd gen i ragor cyn y daw'r ddogfen hon i ben! Catrin