"Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic" fel y dywedodd rhywun doeth ryw dro(wrth drosi ymadrodd Gwyddeleg sy'n mynegi'r un peth mae'n debyg - a bydd y Celtiaid da yn eich plith yn gallu nghywiro i fan hyn - "Nios fearr Gaeilge cliste no Bearla briste"). -----Original Message----- From: [log in to unmask] [mailto:[log in to unmask]] Sent: Friday, July 07, 2000 1:36 AM To: welsh-termau-cymraeg Subject: [Fwd: Re: [[log in to unmask]: Re: default]] Aelodau Termau Cymraeg: Dyma air yn cynnwys fy ymddiheuriad i Dewi Jones, am y llythyr rhwysgfawr, blin a anfonais iddo yn gyhoeddus, ryw ddeuddyd yn ôl. 'Does dim achos i beth fel hyn, ac mae'n wir ddrwg gen i. MT -------- Original Message -------- Subject: Re: [[log in to unmask]: Re: default] Date: Thu, 06 Jul 2000 13:51:41 -0600 From: [log in to unmask] Reply-To: [log in to unmask] To: [log in to unmask] CC: "[log in to unmask]" <[log in to unmask]> References: <11CD408013B6D2119BB50008C7EA510C031BFCBD@eseis05nok> Dewi Jones: Maddeuwch i mi am fod mor llym ac anghwrtais yn f'ateb i'ch llythyr. Yn wir, 'doedd yna ddim rheswm i mi fod mor drahaus, ac fe ddyliwn wybod pa mor annodd ydyw dod i ail afael yn y Gymraeg wedi i rywun brofi hir gyfnod o alltud. Fe fuom i yn ffortunus iawn, ryw ddwy neu dair blynedd yn ôl, i fod yn un o amryw o Gymry ar draws y byd i ymaelodi mewn cynulliad bychan yn 'sgwennu Cymraeg dros y Ryngrwyd. Yr unig reol yn ein trefniad wrth wneyd hyn ydyw fod llythyrau yn cael ei 'sgwennu yn Gymraeg yn unig, ond 'does dim gofyn fod raid i gystrawen, na gramadeg, na sillafu neb fod yn gywir. Y bwriad ydyw gwella ein mheistriolaeth o'r iaith. Mae hyn wedi wedi bod yn eithriadol o ddelfrydol i mi wrth i mi ail gydio yn fy mamiaith, oherwydd 'rydw' innau, hefyd, wedi bod yn alltud, ers dros ddeugain mlynedd, a dros ddeng mlynedd ar hugain o'r blynyddau hyn mewn mannau o Ogledd America ble nad oes brin son am Gymru, a llai fyth am yr iaith Gymraeg (Isn't Welsh a dialect of English???). Mae croeso i chi ymuno yn y cynulliad bychan hwn. Heb gynhyddu llawer mae o yn ddiweddar. Ein trefn ydyw fod pob aelod yn anfon ryw sylwadaeth, neu chwedl, neu ddadl, neu gwestiwn, pan fydd o'n teimlo fel gwneyd hynny, gan ddisgwyl y bydd rywun arall o'r cylch yn ei ateb, a bydd ryw dri neu bedwar llythyr y mis yn cael eu hanfon yn ôl y drefn. Ond dim "chat line" ydyw hwn. Bydd llythyr fel hyn yn cael ei anfon drwy'r e-bost, gan ddefnyddio y cymhwysiad CC, neu Bcc, fel fod pawb yn derbyn, ar yr un amrantiad, unrhyw lythyr a gaiff ei anfon gan unrhyw un o'r aelodau. Efallai y bydd o ddiddordeb i chi, hefyd, i ddod i wybod fod aelodaeth ein "Cylch Ysgrifennu Gymraeg", yn cynnwys dau aelod o Gymru, un o Seland Newydd, a'r gweddill ohonnom o Ganada ac o'r Unol Daleithiau. Dyma ymlyniadau o rai o'r llythyrau diweddaraf i gael eu hanfon i'r Cylch. Fe wnaiff fy nghyfeiriad e-bost i, sef <[log in to unmask]> yn iawn i dderbyn unrhyw ymateb. Unwaith eto, maddeuwch i mi am fod cymaint o fwch tuag atoch. Eilir Tomos Jasper, Alberta [log in to unmask] wrote: > Annwyl Mr Tomos, > > Diolch am eich cywiriadau i'n cynnig ddoe i'r grwp trasfod cyfieithau > Cymraeg. Dwi wedi byw tu allan i Gymru (yn Lloegr a tramor) ers degawd a > ddim wedi cael lawer o ymarfer, ar wahan i'r galwad ffo^n pob penwythnos > adref a'r gwyliau. > > Dwi meddwl dylai pobl, enwedig Cymry Cymraeg oddi gatref fel fi cael pob > parch a chefnogaeth yn eu hymdrechion i ymarfer, mwynhau a chyfrannu mewn > unryw modd gallynt i'r Gymraeg yn hytrach na chael eu pennau eu brathu yn > gyhoeddus. > > Gyda llaw, camgymeriadau bach yn neges chithau hefyd :( > > > Busai treigliadau cywir ar eich rhan yn rhoi mwy o eirwiredd i'ch > cynigiad. Er engraifft: > Er ENGHRAIFFT, er nes innau'r camgymeriad yma hefyd. > > > Byth fydd nesa', tybed, "dwy (C)eiliog", a "dau (C)ath"? > BETH fydd nesa' ....... > > ;) > > Hwyl, > Dewi. > > o.n. sorri os mae na gwallau yn y neges yma hefyd. Croeso i chi ei gywiro os > hoffech. > > ------- Start of forwarded message ------- > X-Nokia-EXT: mgw-x2.nokia.com > Date: Wed, 05 Jul 2000 10:54:04 -0600 > Reply-To: [log in to unmask] > X-Accept-Language: en,cy > Content-Type: text/plain; charset=us-ascii; x-mac-type="54455854"; > x-mac-creator="4D4F5353" > Subject: Re: default > From: "EXT [log in to unmask]" <[log in to unmask]> > To: [log in to unmask] > X-List: [log in to unmask] > X-Unsub: To leave, send text 'leave welsh-termau-cymraeg' to > [log in to unmask] > X-List-Unsubscribe: > <mailto:[log in to unmask]> > Sender: [log in to unmask] > Precedence: list > > Ateb i gynnig Dewi Jones: > > Busai treigliadau cywir ar eich rhan yn rhoi mwy o eirwiredd i'ch cynigiad. > Er engraifft: > > "Rhoddwch y (F)lwyddyn os gwelwch yn dda', > > a hefyd: > > "mae'n anodd cyfieithu y (DDWY frawddeg) arall..." > > Faint haws ydym ni a bathu geiriau i iaith, pan ydym ni'n anwybyddu ei > chystrawen. > > Byth fydd nesa', tybed, "dwy (C)eiliog", a "dau (C)ath"? > > MT > > Jones Dewi wrote: > > > Helo, > > > > Cwestiwn da. Dwi wedi defnyddio'r gair 'absenoldeb' yn y gorffenol. Felly, > er engraifft > > > > "Rhoddwch y blwyddyn os gwelwch yn dda (mewn absenoldeb ateb=2000)" > > > > ond i mi mae'n annodd cyfieithu'r dau brawddeg arall gyda'r gair yma. > > > > Hoffwn innau clywed unryw awgrymiadau eraill hefyd. > > > > Hwyl, > > Dewi. > ------- End of forwarded message ------- %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%