A oes 'na rywrai sy'n gallu fy helpu i gywiro cwpl o ddogfennau sy'n cynnwys cyfarchion mewn nifer o ieithoedd eraill, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yw slip cyfarch sydd yn cynnwys y canlynol: Gyda chyfarchion With compliments Complimenti Le dea-mhe/in Gwellan gourch'henennou\ Avec des compliments - byddai "mes/nos" yn well na "des" Mit freundlichen gru"ssen 'Dyn ni wedi cael cadarnha^d gan rywun ynghylch y geiriau Gwyddelig. Mae'r Eidaleg a'r Almaeneg yn ymddangos yn iawn inni yn ein hanwybodaeth - os gall rhywun eu cywiro, gadewch wybod. Mae Bruce yn weddol sicr y dylai'r Llydaweg ddarllen "Gwellav" yn hytrach na "Gwellan", ond heb fod yn ddigon cyfarwydd a^'r iaith i gywiro'r cyfan. Hefyd, mae gennym daflen (anghywir iawn ei Chymraeg) sy'n cynnwys: Croeso - Fai/lte - Dhynarch - Feailley - Vezoc'h - Welcome. Er iddo amau mai "Byddwch" yw ystyr "Vezoc'h", a bod 'na air ar goll, ac o bosibl bod yr acen yn y lle anghywir ar "Fai/lte", unwaith eto nid yw Bruce mewn lle i'w cywiro. Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth, Ann %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%