Annwyl Bawb, 1 Defnydd diddorol parthed priflythrennau: 'byddar' = yn y cyflwr awdiolegol o beiedio a chlywed "Byddar" = yn defnyddio iaith arwyddion (o bosib o'r crud) fel prif gyfrwng mynegi a chyfathrebu ac yn ymuniaethu gyda'r gymuned o bobl sy'n ei harddel ac yn seilio'u diwylliant arni. 2 A oes gyda rhywun gynigion ar gyfer oralist, sef yr ysgol o feddwl a waharddai ieithoedd arwyddion o addysg plant Byddar ac a ddaeth i'w deyrnas wedi CYngres Milano tua 1880. (Roedd hyn i gyd, wrth gwrs, i fod er lles y plant - yr un egwyddor a'r Welsh Not). Cofion gorau, Tim %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%