Rydw i o blaid cyfochredd yn yr achos hwn. Beth, wedi'r cyfan, sy'n "gyflin" yma? Gwir, tydy'r bydoedd hyn ddim i fod i gyfarfod byth, ond nid cyflin pob par o linellau nad ydynt yn cyfarfod. (Nid cyfochrog, chwaith, ond...) Onid "yn dilyn datblygiad tebyg, ond yn gwbl ar wahan" yw'r ystyr? Ac wela i ddim achos i ddefnyddio "bydysawd" yn lle "byd" chwaith, dim ond am mai dyna'r trosiad llythrennol o'r Saesneg. Chwyddiant ieithyddol yw peth felly. Disgwyliaf yn eiddgar am air am yr hyn nad oes dim ond un mohono yn cynnwys y bydysawdau hyn i gyd. Bydoedd cyfochrog. Yn fy myd bach innau pe bai gennyf wallt i gribo, mi gribwn i nhw'n gyflin cyn eu hollti. %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%