Annwyl Wybodusion, Tybed a oes term sy'n cael ei dderbyn yn gyffredinol (hy y cyfryngau, byd addysg, ar y we) yn Gymraeg am 'globalisation'? Pan oeddwn i'n chwysu uwchben Geiriadur yr Academi rai blynyddoedd yn ôl (cofio Bruce...?) nid oedd neb yn sôn am y cysyniad hwn o gwbl. Diolch o flaenllaw. Paul W Birt Draw dros y Don %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%