Annwyl gyfeillion. Ofnaf nad wyf yn cytuno gyda gryn dipyn o'r sylwadau isod. Y broblem yw fod yna'r byd o wahaniaeth rhwng "gennyn" a "geneteg" sy'n hollol bwysig i ystyr sawl un o'r ymadroddion. Bathwyd y gair geneteg mae'n debyg o'r gwraidd "geni" mewn cyfnod pan nad oedd ynryw syniad beth oedd wrth wraidd etifeddi. Ar ganol y ganrif diwethaf darganfyddwyd beth oedd gennyn - ac mae'n wir ei fod yn rhan bwysig o esbonio beth yw sylfaen etifeddi, ond un rhan o'i weithgaredd yw hwn yn unig. Mae genynnau pob un ohonom yn gweithio'n galed iawn pob eiliad, er fod y rhan fwyaf ohonom ddim yn ymwneud ag "etifeddi" cweit mor aml a hyny. Er engraifft ofnaf nad oes ystyr ddiamwys, os o gwbl, i mi i'r ymadrodd "gwenith genynnol addasedig". Beth sydd wedi'i haddasu ac ym mha fodd ? Mi 'rydwyn ofidio am hwn yn fwy na'r rhan fwyaf o dermau - am y rheswm y soniodd David Bullock amdano - efallai bydd y geiriau yma'n ymddangos ar ganran sylweddol o'n bwydydd dros y blynyddoedd i ddod. yn ddiffuant, Deri Tomos Ann Corkett wrote: > > genynnol addasedig: > ansoddair cyfansawdd yw hwn lle mae'r gair cyntaf yn adferfol ac yn > goleddfu'r ail air, sef yr ansoddair cnewyllol. > Enghreifftiau eraill: > gwleidyddol gywir, hollol anwybodus, rhannol gyfrifol, corfforol amhosibl, > cemegol ddigyfnewid, ystadegol gamarweiniol, ffeithiol anghywir, manwl > gywir; > y mae "genynnol addasedig" felly yn golygu "a addaswyd yn enynnol". Nid > yw'n arferiad rhoi didolnod (heiffen) mewn cyfansoddiadau llac o'r fath: > petawn wedi rhoi heiffen efallai y buasai'r cyfan yn gliriach. > > > mae 'gwenith genynnol addasedig' yn cyfateb i 'modified genetic wheat' > on'd yw e? > Yr ateb yw: nac ydyw. > > > beth, er engraifft byddai "genetically modified wheat" ? - gwenith > genynnol addasedig ? > Yr ateb yw: Ie. Mae fel "ateb hollol gywir", "arbrawf cwbl fethiannus", > "tyfiannau biolegol debyg", "lleoedd daearyddol wahanol" etc. > > Y dewis arall yw bod yn glogyrnaidd "plannwyd gwenith wedi ei addasu'n > enynnol/enetaidd yn y cae ..." ac nid oes dim yn nadu ichwi ddweud hynny os > mynnwch. Yn sicr bydd angen ansoddair rywfaint yn fwy cryno. O'm rhan i, > nid oes wahaniaeth yn y byd ba un ai "genynnol", "genetaidd" neu "genetig" > a ddywedir, pa un ai "addasedig", "newidiedig" neu "cyfnewidiedig". > > Gellid permio unrhyw ddau: > genynnol addasedig > genetaidd addasedig > genetig addasedig > genynnol newidiedig > genetaidd newidiedig > genetig newidiedig etc > > ond ni fynnwn lwytho'r Geiriadur a^ llu o ddewisiadau. Mae "addasedig" yn > fymryn llai o lond ceg na "newidiedig"/"cyfnewidiedig". Byddai "genynnol > addas" yn fwy cryno ond nid yr un fyddai'r ystyr. Os oes teimlad cryf gan > y mwyafrif o blaid rhywbeth amgen na "genynnol addasedig" *fel ansoddair* > yna o'm rhan i, popeth yn iawn, ond fe aeth yn hwyr i newid y cofnod yn y > Geiriadur. Yn bersonol, ni welaf angen dau neu dri gair yn Gymraeg ar > gyfer un gair Saesneg (h.y. Groegaidd) ond mater arall yw hynny. > > Bruce Griffiths. -- ________________________________________________________ Yr Athro A. Deri Tomos Prof. A. Deri Tomos Ysgol Gwyddorau Bioleg, School of Biol. Sciences, Prifysgol Cymru Bangor, University of Wales Bangor, Bangor, Gwynedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2UW, Cymru LL57 2UW, Wales tel: (uk int +) (0)1248 382362 ffacs/fx: (uk int +) (0)1248 370731 llythel/e-mail: [log in to unmask] rhwyd/internet: http://sbsweb.bangor.ac.uk/people/004158 _______________________________________________________ %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%