Annwyl Ann, Fy nhrafferth i yw mai fel geiriau llafar (jargon) 'dwyn defnyddio y rhain yn y labordy - yn hytrach nac mewn ysgrifen, ond dyma ychydig sylwadau. Yn fras, i mi mae "genetig" yn ymwneud a'r gwyddor Geneteg, tra bo genynnol yn ymwneud a'r gennynnau. Ni astudiais ramadeg Gymraeg erioed, ond deallaf ei fod yn fwy naturiol i ddefnyddio'r enw (ee.gennyn) yn hytrach na'r ansoddair (ee genynnol) - yn aml mae hwn yn symleiddio ymadroddion technegol. (Yn wir, weithiau mae'r frawddeg Gymraeg yn haws ei ddeall na'r frawddeg Saesneg o'r herwydd.) Felly fy awgrymiadau (fel biocemegydd, yn hytrach na ieithydd) 1. Genetic modification: newid y genynnau/ newid genynnau (gellir ddefnyddio "cyfnewidiadau genynnol" wrth trafod newid priodoleddau ffrwchnedd, efallai) 2. Gen. Eng.: Peirianneg genynnau (jargon, ond un sydd wedi ennill ei blwyf yn fy marn i). 3. Biotec.: Biotechnoleg (yn dilyn Biocemeg - ond a ddylai hwn fod yn Fiodechnoleg ?) 4. DNA: - yn bendant DNA, byddai AND, fel acronym, yn hollol annealladwy. (Mae hyd yn oed y Ffrancod yn ei ddefnyddio). Yn llawn, mae asid niwclear deocsiribos - neu beth bynnag fyddai'r sillafu safonol - yn iawn i mi.) 5. Germ line therapy: Triniaethau celloedd cenhedlu (??) 6. Xerotransplants: Trawsblanni o rhywiogaeth estron. (Trawsblaniadau estron - os bo rhaid) 7. Terminator Technology: Jargon pur yw hwn - awgrymaf Technoleg Terminator. pob hwyl - edrychaf ymlaen at ddarllen dy erthygl rhywbryd ! Deri Tomos Ann Corkett wrote: > > A allech chi wyddonwyr roi help llaw imi. > > 'Rwy'n cyfieithu dogfen s'yn ymwneud a^ 'r canlynol: > genetic modification/genetic engineering/biotechnology > DNA > germ line therapy > xenotransplants > terminator technology > > Mae rhan o'r gwaith eisoes wedi'i chyfieithu, ond nid wyf yn hapus iawn a^ > defnyddio "cyfnewidiadau genynnol" ar gyfer genetic modification. > > Nid wyf yn gymaint yn gofyn am awgrymiadau, ond gofyn i bobl sydd yn > gyfarwydd a^'r maes pa dermau sydd eisoes yn cael eu harfer, e.e. ydych > chi'n tueddu i ddefnyddio "genetig" ynte "genynnol" ar gyfer genetic? > > Llawer o ddiolch, > > Ann Corkett -- ________________________________________________________ Yr Athro A. Deri Tomos Prof. A. Deri Tomos Ysgol Gwyddorau Bioleg, School of Biol. Sciences, Prifysgol Cymru Bangor, University of Wales Bangor, Bangor, Gwynedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2UW, Cymru LL57 2UW, Wales tel: (uk int +) (0)1248 382362 ffacs/fx: (uk int +) (0)1248 370731 llythel/e-mail: [log in to unmask] rhwyd/internet: http://sbsweb.bangor.ac.uk/people/004158 _______________________________________________________ %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%