Print

Print


Ysgrifennodd Mark Nodine <[log in to unmask]>
>[log in to unmask] wrote:
>> 
>> Oddi wrth: Richard Hughes <[log in to unmask]>
>> Testun: To boot or not to boot [operating systems that is]
>> 
>> Y term yr wyf yn ei defnyddio yma yw 'sbarduno' neu 'ysbarduno'
>> [cyffelybiaeth: ysbarduno ceffyl].

>Y prif broblem efo "sbarduno" yw'r ail ystyr o "sbardun" i
>olygu "accelerator" y car.  Mae hynny'n swnio imi fel eich 
>bod chi'n cyflymu'r cyfrifiadur yn lle ei gychwyn.

Efallai ond dyma'r rhesymeg neu'r afresymegolrwydd [os dymunwch] a dyma 
cyfatebiaeth: -
yr hyn sydd yn digwydd yw bod prosesydd y cyfrifiadur yn 'cychwyn' yn syth 
ar o^l iddo dod o dan foltedd; fel arfer, mae'r cadarnwedd yn ufuddhau 
gorchmynion rhaglenni prawf yn annherfynol hyd at yr ennyd pan dde^l ymyriad 
(mewnol neu allanol e.e. cloc neu'r cyfrifiadurwr yn taro allwedd) sydd, 
o ganlyniad, yn ei achosi i wedd weithredu rhaglen arall e.e. 'sbarduno' 
y system gweithredu - hynny yw, 'gwneud elfen o waith o fudd' o safbwynt y 
sawl sydd yn defnyddio y cyfrifiadur. Pan ddychmygwyf ceffyl, gyda marchog ar 
ei gefn, yn cnoi cil - dyma cyflwr y cyfrifiadur yn syth ar o^l iddo cael ei 
troi ymlaen - yn sydyn, 'llwybreiddiodd ei rhyfeddod prin o'i flaen'
[ymddiheuriad i Wilpar] wele! Y marchog yn plannu ei sbardunau yn ei geffyl 
- dyma cyflwr y cyfrifiadur ar o^l derbyn yr ymyriad - ac o hyn ymlaen mae'r
ceffyl yn cychwyn ar garlam a'r cyfrifiadur yn ymgychwyn ei hun.

Teimlaf bod y term 'sbarduno' yn addasach [ac yn fwy 'cymreigaidd']
na chyfieithiadau sydd yn tarddu o'r term americanaidd 'boot' sydd yn cyfleu 
bron dim o'r hyn sydd yn digwydd ond sydd yn cael ei defnyddio [o hyd] am 
resymau hanesyddol yn unig [os cofiaf yn gywir, tua 1960, IPL oedd yn cael ei 
defnyddio ym Mhrydian sef Initial Program Loader a 'boot' neu 'bootstrap' yn
tarddu o gwmniau RCA/UNIVAC]; erbyn hyn 'boot' piau hi yn anffodus.
Nid oes rhaid efelychu priod-ddull anghywir, anaddysgiadol wrth
fathu term yn y Gymraeg ac nid yw termau fel 'llwytho' neu 'cicio' neu 
'cychwyn' yn hollgynhwysfawr ychwaith.

Fy ngwerth gro^t.

Richard Hughes

Gesellschaft beratender Informatiker mbH
Muenchen
Yr Almaen


%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%