Os edrychwch yng ngeiriadur Saesneg-Cymraeg Silvan Evans fe welwch iddo wneud ymdrech arbennig i gael termau Cymraeg ar gyfer pob un o'r cyfystyron Saesneg. Fe welir yr un peth yng Ngwyddoniadur Gee ac Addysg Chambers i'r Bobl. Mae miloedd a miloedd o'r geiriau hyn wedi diflannu'n llwyr erbyn hyn, ac yn achos llawer ohonynt mae'n siwr na chawasant eu defnyddio o gwbl y tu allan i'r geiriaduron. Y tebyg yw fod y geiriau hyn eisoes yn hen a diflanedig yn 1935 pan gododd rhywun nhw o hen eiriadur wrth lunio'r rhaglen: tybed faint o gystadlu fu? Andrew O.N. Mae gennym rai ystadegau eitha diddorol wedi'u tynnu o'r geiriadur yngly+n a+ benthyciadau ac yn y blaen, ar ein gwefan, gw. http://www.aber.ac.uk/~gpcwww/gpc_ysta.htm At 09:55 26/05/00 +0200, you wrote: >Oddi wrth: Richard Hughes <[log in to unmask]> >Pwnc: Re: y Dorbib / y Telgorn > >Diolch i Andrew Hawke <[log in to unmask]> am y wybodaeth. Y peth a oedd >yn f'ymddidori yn bennaf oedd sut y geill geiriau o raglen >swyddogol y Genedlaethol 'diflannu' oddi mewn tipyn llai na chanrif >(hynny yw 'y broses' yn hytrach na'r ddwy enghraifft); a oes rhagor o >engreifftiau? A ydym yn bathu geiriau (o'r Saesneg) heddiw lle bo hen >eiriau anghofiedig addas(ach) ar gael? > -=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=- Andrew Hawke [log in to unmask] (01970)627513 (+44)1970 627513 (fx627066) Golygydd Cynorthwyol/Rheolwr Systemau Asst. Editor/Systems Manager Geiriadur Prifysgol Cymru University of Wales Dictionary Llyfrgell Genedlaethol Cymru National Library of Wales Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH, U.K. URL: http://www.aber.ac.uk/geiriadur/ %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%