Oddi wrth: Richard Hughes <[log in to unmask]> Pwnc: A geiriau bach hen ieithoedd diflanedig Neithiwr, ar o^l cinio bras o w^ydd flasus a gwydriad o laeth yr annwyl fodan 'roeddwn yn pori yng nghanol rhaglen swyddogol eisteddfod genedlaethol frenhinol(*) Cymru, Caernarvon (!) 1935. Yn yr adran chwythbrennau 'roedd tair cystadleuaeth: Unawd ar y Chwibanogl draws - Andante gan Haydn Unawd ar y Dorbib - Nocturne gan Josef Holbrooke Unawd ar y Telgorn - Rhapsody gan Norman Peterkin Deallais bod y gyntaf yn cyfeirio at y 'ffliwt' ond beth yw/oedd 'torbib' a 'thelgorn'? Chwilio a chwilio yn ofer yng Ngheiriadur yr Academi, yng Ngheiriadur Prifysgol Cymru, yng Ngeiriadur Bodvan Anwyl, yn y Geiriadur Mawr ac yn y 'Termau Cerddoriaeth'. Y bore 'ma, rhoddais dinc i gwmni Hieber(**) yma yn Munich; gofynnais i ba offerynnau cerdd yr ysgrifennwyd y 'Nocturne' gan Josef Holbrooke a'r 'Rhapsody' gan Norman Peterkin? Disgwyl am ennyd; toc, daeth yr atebion mewn llais undonog y cyfrifiadur - " 'Klarinette' und 'Oboe' ". Wedyn yn o^l i Eiriadur yr Academi: clarinet - clarine't(clarinetau) (eg) oboe - obo(-au) (eg) Paham neu sut, felly, mae hen eiriau (da?) fel hyn yn diflannu heb adael o^l? O.N. (*) Dyma'r Genedlaethol 'Frenhinol' gyntaf; mae llythyr o'r Swyddfa Gartref i ysgrifennydd y Genedlaethol yn werth ei dyfynnu:- Sir, I am directed by the Secretary of State to inform you that he has laid before the King your application dated the 7 th instant [1933] on behalf of the Executive Committee of the National Eisteddfod of Wales, 1935, and that His Majesty has been graciously pleased to signify his approval of the application and to Command that the National Eisteddfod of Wales, 1935, to be held at Caernarvon, shall be known as ''The Royal National Eisteddfod of Wales, 1935.'' I am, Sir, Your obedient Servant, N. L. Bickwel. (**) siop gwerthu gerddoriaeth ddalen Richard Hughes, Gesellschaft beratender Informatiker mbH Muenchen Yr Almaen %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%