Rwy'n aml iawn yn gorfod cyfleu yn y Gymraeg y syniad o ysgolion a cholegau
yn 'rhoi' neu 'gyflwyno' neu 'draddodi' addysg i'w disgyblion a'u myfyrwyr.
Yr termau cyfatebol poblogaidd yn y Saesneg yw 'deliver/delivery'.
Ni allaf feddwl am unrhyw ymadrodd Cymraeg sy'n cyfleu'r syniad yn ddiamwys.
Er enghraifft, mae 'cyflwyno' yn gallu golygu cymaint o bethau eraill,
'rhoi' yn rhy llac, 'gweithredu' yn rhy bell o'r gwir ystyr.
Rwy'n dechrau ffafrio 'traddodi' gan ddilyn y syniad o draddodi darlith. Sut
byddech chi'n hoffi darllen mewn dogfennau addysgol am athrawon yn
traddodi'r cwricwlwm i ddisgyblion neu am yr angen i roi sylw i'r modd y
traddodir addysg neu am gyflwyno a gweithredu dulliau traddodi newydd?
Rwyf wedi ceisio argyhoeddi fy hun y gellir osgoi cyfieithu
'deliver/delivery' ond mae'n mynnu codi ei ben dro ar ôl tro.
Huw Roberts
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|