Ydw i, fel aelod newydd o'r grwp, ac yn weddol dwp, yn gallu meiddio cynnig
"cyflenwi/cyflenwad"? yn yr ystyr "supply"?
Roger Fenton
O.N. Diolch i bawb am eich cyfraniadau ar gyfer "parental responsibility"
>Rwy'n aml iawn yn gorfod cyfleu yn y Gymraeg y syniad o ysgolion a cholegau
>yn 'rhoi' neu 'gyflwyno' neu 'draddodi' addysg i'w disgyblion a'u myfyrwyr.
>Yr termau cyfatebol poblogaidd yn y Saesneg yw 'deliver/delivery'.
>
>Ni allaf feddwl am unrhyw ymadrodd Cymraeg sy'n cyfleu'r syniad yn ddiamwys.
>Er enghraifft, mae 'cyflwyno' yn gallu golygu cymaint o bethau eraill,
>'rhoi' yn rhy llac, 'gweithredu' yn rhy bell o'r gwir ystyr.
>
>Rwy'n dechrau ffafrio 'traddodi' gan ddilyn y syniad o draddodi darlith. Sut
>byddech chi'n hoffi darllen mewn dogfennau addysgol am athrawon yn
>traddodi'r cwricwlwm i ddisgyblion neu am yr angen i roi sylw i'r modd y
>traddodir addysg neu am gyflwyno a gweithredu dulliau traddodi newydd?
>
>Rwyf wedi ceisio argyhoeddi fy hun y gellir osgoi cyfieithu
>'deliver/delivery' ond mae'n mynnu codi ei ben dro ar ôl tro.
>
>Huw Roberts
>
>
>
Chris Armstrong
Centre for Information Quality Management
(+44) 01974 251441
==================
Please reply to:
[log in to unmask]
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|