Rwy'n gweithio ar nodiadau Ffiseg Safon Uwch ar cerrynt eiledol. Wrth drafod
gwerthoedd sinwsoidaidd yn cael eu cynrychioli gan fector sy'n cylchdroi, y
term Saesneg yw 'phasor'. Yn y cyd-destun hwn, y term am 'phase' yw cydwedd
ond, am ryw reswm, y gair Cymraeg yng Ngeiriadur yr Academi am 'phasor' yw
'ffasor'. Tybed pam, o weld bod yr holl ddewisiadau ar gyfer 'phase' yn yr
un geiriadur yn cynnig neill ai gwedd(au) neu gydwedd(au)?
Gan gymryd y byddai'r Termiadur wedi cynnig gair 'cydweddol', beth fyddai'r
gorau gan gyfranwyr y Cylch - Cydweddwr (-wyr), Cydweddydd (-yddion)
efallai, neu ryw derm arall mwy addas? Hoffwn glywed eich barn.
Huw Roberts
CBAC
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|