Neges oddi wrth Ann, y teipydd:
'Roeddwn i'n poeni mai fi oedd wedi gwneud cam a^ Bruce, wrth deipio ei
neges, ond wedi edrych ar gopi o'r neges, "rhieiniol", gair y mae
Geiriadur y Brifysgol erbyn hyn wedi cyrraedd ato, sydd yno, a does dim
cwestiwn o "(f)athu term newydd fel 'rhieniol'".
Neges oddi wrth Bruce:
Nid term "newydd" mo "rhieiniol" fel yr honnwyd yn anghywir. Yn o^l
Geiriadur y Brifysgol mae'r gair yn dyddio o'r degfed ganrif, ac fe ceir ar
ryw ffurf neu'i gilydd yng ngeiriaduron W O Pughe, Silvan Evans, ac E
Anwyl, 1937, er mai gair prin fu erioed.
Ystyr "cyfrifoldeb rhiant" yw "a/each parent's responsibility": os yw
"cyfrifoldeb rhiant" yn cyfleu'n gywir yr ystyr sydd ei hangen, yna mae'r
ymadrodd Saesneg "parental responsibility" yn anghywir yn yr ystyr
arbenigol hon: "one parent's responsibility" neu "each parent's
responsibility" fyddai'n gywirach.
D.S. Gweler hefyd "Geiriadur y Gyfraith, Atodlyfr Cyntaf":
"Parental Responsibility Agreement - Cytundeb Cyfrifoldeb Rhieni"
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|