Wrth ategu yr hyn sydd gan Delyth Prys, hoffwn nodi yn ychwanegol fod y term
hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob unigolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant
ac nid rhieni yn unig. Dyfernir 'cyfrifoldeb rhiant' (term technegol) i bobl
sydd â pherthynas arall â'r plentyn o fewn y teulu, megis neiniau a
modrybedd a.y.b., yn ogystal ag unigolion eraill, ond nid yw'r nain neu'r
fodryb wedyn yn 'rhiant' (iaith bob dydd)...
Elin Haf Gruffydd Jones
Prifysgol Cymru Aberystwyth
>Mae'n bwysig sylweddoli wrth drafod termau fel hyn nad ymwneud â'r iaith
>naturiol bob dydd ydym ni ond â maes technegol arbenigol (yn y fan hon, y
>gyfraith). Bu'r holwr gwreiddiol yn ddigon craff i gynnwys y diffiniad
>cyfreithiol o'r term yn y cyd-destun penodol yr oedd ganddo ef ddiddordeb
>ynddo - a gwelir o hynny mai "...all the rights, duties, powers,
>responsibilities and authority which by law a parent has in relation to the
>child..." oedd y diffiniad - pob rhiant yn unigol felly, ac mae'n
>gamarweiniol yn y cyd-destun hwn ei ddehongli fel cyfrifoldeb rhieni yn
>gyffredinol. Wrth gwrs, mewn iaith bob dydd, mae'n gywir ac yn dderbyniol
>sôn am gyfrifoldeb rhieni yn gyffredinol yn ddigon aml, ond mater arall yw
>hwnnw. Nid yw bathu term newydd fel 'rhieniol' ychwaith yn gymorth yma,
>mae'n ddiangen yn y cyd-destun hwn, ac nid yw'n ein cynorthwyo i ddeall mai
>cyfrifoldeb sydd gan bob rhiant yn ei ddal yn unigol sydd dan sylw yma.
>
>Delyth Prys
>Canolfan Safoni Termau
>Prifysgol Cymru, Bangor
>
>
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|