Wrth gael trafferthion ymdopi a+'r Termiadur Ysgol (ACCAC), cofiais yn sydyn
am y grwp yma a meddwl tybed pwy arall sy'n dal o gwmpas ac yn dod ar draws
problemau tebyg.
Heddiw, wrth olygu un dudalen yn unig o lyfr bioleg i ysgolion cynradd,
cododd dwy broblem ar unwaith:
1. Beth ddylwn i ei ddefnyddio am Human Biology? Dywed y Termiadur 'human =
dynol' ond yna 'human genetics = geneteg dyn'. Ni allaf felly weld p'un ai
Bioleg Dyn ynteu Bioleg Dynol fyddai ACCAC yn ei ddefnyddio.
2. Ai 'ysgerbwd' ynteu 'sgerbwd' ddylwn i ei ddefnyddio mewn llyfr i
ysgolion? Dywed y Termiadur 'skeleton = ysgerbwd' ond yna 'skeletal traction
= hydyniad ar y sgerbwd' yn union uwch ei ben.
Huw Roberts, CBAC
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|