Ga' i gynnig bod hi'n anodd trin acronymau yn Gymraeg am reswm
amlwg - bod lythrennau blaen geiriau yn gnafon llithrig mewn
iaith sy'n treiglo. Petawn i, er gwaethaf ymwrthod ag
anthropomorffiaeth, yn arfer cyfeirio at "cof" ar gyfrifiadur,
ac yng ngwyneb llif arfer yn ymwrthod â benthyciadau fel RAM,
byddai disgwyl mae'n debyg i mi gyfeirio at gof hapgyrch fel
CH. Nage, nid Ch, ond CH. Nawr, a ddylwn i dreiglo'r C petawn
i'n treiglo "cof"? "Estyniad at GH", ynteu "estyniad at CH"?
"CDYU a CH", neu "CDYU a ChH"? A beth wnawn ni â threigliad
meddal talfyriad sy'n cychwyn ag g-? Ai gollwng y llythyren
yn gyfangwbl, ai dyrchafu'r llythyren nesaf?
Yn amlwg mae hi'n bwysig a ydy'r acronym wedi mynd yn air, neu
un sydd yn dal i fod yn gyfres o lythrennau. Mae yna rhyw
fath o reol i fod yn yr iaith fain bod absenoldeb atalnodi i
ddynodi'r naill, ac atalnodi i ddynodi'r llall, ond mae hon yn
reol sydd fel y rhelyw o reolau iaith yn amlycach o'i heithriadau.
Petai'r BBC (neu B.B.C., yn ôl rheol) yn arfer talfyrru'i henw
Cymraeg i GDdB byddai yna rhyw chwithdod ar y naw defnyddio G
ac Dd a B fel unig arwyddion cyfeirio at eiriau sy'n dechrau
gydag "c" a "d" a "p" yn y geiriadur. (Ac awn ni ddim ar ôl
ai'r G ai'r D sy'n B.)
Mi wn bod enwau priod yn wahanol hefyd, ond gan na fyddai neb
yn disgwyl gweld cyfeirio at UCAC fel dim sy'n cychwyn NU...
mewn brawddeg yn Saesneg, pam yr ysfa i "gyfieithu" acronymau
sydd wedi mynd yn eiriau ynddynt hwy eu hunain yn yr iaith fain?
Wela i neb yn ysu cyfeirio at CAGDCU - nage, at GAGDCU - yn
lle UNICEF. (Wn i'm pam 'chwaith.)
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|