( Mae'r gwerslyfr TGAU (wele acronym Cymraeg yn cynnwys treiglad, gyda llaw)
Ie, ond beth am y T- ar y blaen. Ydw i'n deallt yn iawn o'r drafodaeth
fu y dylwn i barhau i ysgrifennu "ei TGAU" ond i ddweud "ei dygàu", "ei
thygàu"? Mae hi'n anodd ar y naw dweud "ei tygàu" heb glywed "eu tygàu".
A beth yw cenedl "TGAU"? Benywaidd fel "tystysgrif"? "Y dygàu" ar
lafar ac "y TGAU" ar glawr, neu "y tygàu" ar lafar hefyd? Ond pan fo
TGAU yn lluosog, wrth gwrs, "y tygàu" ar lafar bob tro.
( ... Felly, mae CSV wedi mynd yn NWGGA
) (newidynnau wedi eu gwahanu gan atalnodau) ac mae CPU (central processing
( unit) yn UBG (uned brosesu ganolog).
Dyna godi cwestiwn arall, mwy eang, am gyfieithu. Pan fo rhyw ymadrodd
wedi mynd yn briod-ddull, a ddylid cyfieithu'r ymadrodd neu a ddylid
bathu ymadrodd. (Mae pob acronym, mewn rhyw ystyr, yn briod-ddull wedi'r
cyfan.) Yn yr achos yma, gwerthoedd sydd i fod i gyfateb yn eu tro i
gyfres o newidynnau - ac nid y newidynnau eu hunain - sydd rhwng atalnodau,
ond pwy sy'n ymwybodol o hynny wrth gyfeirio yn Saesneg at CSV?
A minnau wedi dysgu o'r diwedd i Americaneiddio fy Saesneg, ac i gyfeirio
at CPU yn hytrach na "mill", dyma orfod dysgu defnyddio UBG yn lle melin,
ife? Wn i ddim na fuaswn i mwy bodlon Americaneiddio fy Nghymraeg.
Beth pe bai mewn acronym llawn treigliadau un o'r enwau hynny sy'n
amrywio eu cenedl? Am wn i mae pawb yn cytuno bod "uned" yn fenywaidd,
ond beth am - i fathu enghraifft wirion - "soced (c/g)yfathrebu
(p/b)edwarplyg (c/g)aboledig"? Ddylwn ni ymgripio at safoni cenedl
"soced", a ddylid safoni acronym fel SGBG yng ngwyneb amrywiad yng
nghenedl y gair soced, neu oes raid i ni ddod i arfer gyda chyfeirio
at SCPC a SGBG yn ôl chwaeth ieithyddol?
Cwestiynnau diwedd tymor, oll.
( Anodd iawn yw deddfu ynte?
Amèn.
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|