Acronymau.
Diolch Huw - mae hwn yn fater sy'n codi o hyd. Mi ddylwn
wybod - ond dydw'i ddim - beth sydd yn rhestr CBAC am
acronymau cemegol (a ffisegol). Mewn biocemeg mi fyddai'n
anodd iawn newid DNA a RNA i AND a ANR, er engraifft, dwyn
ofni.
Deri Tomos
On Mon, 30 Nov 1998 09:00:32 -0000 h.roberts wrote:
> From: h.roberts <[log in to unmask]>
> Date: Mon, 30 Nov 1998 09:00:32 -0000
> Subject: Acronymau Cymraeg
> To: welsh-termau-cymraeg
<[log in to unmask]>
>
>
> Darllenais gyfraniadau at y drafodaeth ar ddefnyddio
acronymau Cymraeg ym
> maes Technoleg Gwybodaeth. Yn ddiweddar, derbyniodd CBAC
gomisiwn gan ACCAC
> i gyhoeddi gwerslyfr ar gyfer TGAU, sef SYSTEMAU
GWYBODAETH gan Stephen
> Doyle (addasiad Cymraeg o 'Information Systems for You' a
gyhoeddwyd yn y
> Saesneg gan gwmni Stanley Thornes). Mae'r gyfrol hon yn
ateb gofynion
> meysydd llafur presennol CBAC yn y maes hwn ac ar gael
trwy lyfrwerthwyr
> neu'n uniongyrchol o Siop Lyfrau CBAC (ffon +44 1222
265112 neu 265063) am
> 11.00 punt (Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol 1-86085-315-3).
>
> Wrth ei baratoi trafodwyd a ddylid cyfieithu acronymau a
chytunwyd i
> gynnwys ffurfiau Cymraeg ac acronymau Cymraeg ar gyfer y
rhan fwyaf o'r
> rhai Saesneg sy'n ymddangos yn y llyfr. Serch hynny,
cytunwyd i beidio a+
> throsi rhai acronymau amlwg megis ASCII, RAM, ROM, COBOL
(ieithoedd yn
> gyffredinol), CD-ROM ac ati. Efallai y byddai gan
gyfranwyr y fforwm trafod
> hwn ddiddordeb arbennig yn y rhestr o dermau technegol a
geirfa
> Cymraeg/Saesneg sydd yng nghefn y llyfr.
________________________________________________________
Yr Athro A. Deri Tomos Prof. A. Deri Tomos
Ysgol Gwyddorau Bioleg, School of Biol. Sciences,
Prifysgol Cymru Bangor, University of Wales Bangor,
Bangor, Gwynedd, Bangor, Gwynedd,
LL57 2UW, Cymru LL57 2UW, Wales
tel: (uk int +) (0)1248 382362
ffacs/fx: (uk int +) (0)1248 370731
llythel/e-mail: [log in to unmask]
rhwyd/internet:
http://sbsweb.bangor.ac.uk/people/bss005.html
_______________________________________________________
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|