Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn rhoi fel diffiniad o 'ynni' "Gallu mater ac ymbelydredd i wneud gwaith... ; mesur o'r gallu hwnnw, unrhyw ffurf ar y gallu hwn sy'n deillio o adnoddau megis olew, nwy neu lo, ac a ddefnyddir i gynhyrchu pŵer".
'Ynni' a ddefnyddir yn helaeth ar gyfer yr hyn a gynhyrchir ac a ddefnyddir, gweler TermCymru o dan 'energy'. Erbyn hyn mae'r gair wedi hen ennill ei blwyf.
O ran yr ymgyrch hysbysebu (?), naill ai bydd yn rhaid cadw at gysyniad fampirod a cheisio dod dros anhawster y gair mwys 'suck', yn enwedig os oes lluniau / graffigwaith yn mynnu hynny, neu defnyddio cysyniad hollol wahanol ynghylch gwastraffu neu arbed ynni.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint
Sent: 06 February 2020 13:29
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Energy Vampire
egni hwn eg (egnïon)
1 y grym, nerth, ymdrech, ymroddiad, etc. a ddefnyddir wrth weithio, bwrw ati â’i holl egni energy, might
2 (am bobl) y cyflwr o fod yn llawn bywyd ac ynni, Mae gan bobl ifanc lawer mwy o egni na hen bobl.afiaith, asbri, bywiogrwydd, nwyf energy
3 y gallu i wneud gwaith, Mae gwres yn un ffurf ar egni, ac egni trydanol ac egni niwclear yn ffurfiau eraill.ynni energy
Sylwch: yn dechnegol ‘egni’ yw’r term a ddefnyddir ac eithrio yn achos ‘niwclear’ lle mai ‘egni niwclear’ ac ‘ynni niwclear’ yn cael eu defnyddio.
Mynnwch eiriadur!
-----Neges Wreiddiol/Original Message----- Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> Ar ran/On Behalf Of Emily Harries
Anfonwyd: 06 February 2020 12:58
At: [log in to unmask]
Pwnc: Energy Vampire
Helo Pawb,
Dwi'n ceisio cyfieithu'r darn isod ond, i ddweud y gwir ddim yn siŵr lle i ddechrau!
Y cyd-destun yw cwis i weld os ydych yn defnyddio rhy gormod o ynni yn y cartref.
Hefyd, a all rhywun esbonio'r gwahaniaeth rhwng ynni ag egni plîs? a p'un ddylwn i ei ddefnyddio yn y cyd-destun yma?
Unrhyw awgrymiadau?
"Are you an Energy Vampire?
If you answered:
Mostly YES = Energy Vampire
Mostly NO – VAMPIRE SLAYER
Energy Vampires suck. Be a Vampire Slayer."
Diolch,
Emily
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1

|