Fan/lori fechan gyda chawell ar ei chefn agored, a ddefnyddir gan gynghorau sir ac ati ar eu rowndiau casglu sbwriel.
Dydi'r term yn Saesneg ddim yn cynnwys van/truck/lorry, ond tybiaf mae 'fan' yw'r agosaf ati o ran maint/math y cerbyd.
Ar gyfer 'tipper [truck]', ae Bruce yn rhoi:
wagen (f) godi (wagenni codi), lorri (f) godi (lorïau codi), N.W:occ: lorri lympio (lorris llymio), llympar (m) (llympars).
Oes'na unrhyw un sy'n gyfarwydd â therm Cymraeg sy'n cynnwys y 'cage'? Neu os bydd angen bathu disgrifiad o'r newydd, mi fuaswn i'n ddiolchgar iawn o gael awgrymiadau i gynnwys 'cawell' mewn ffordd fachog/cryno/heb ei wneud yn lond ceg!
Diolch
Gwenlli Haf
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|