Yr unig broblem efo hynna ydi mae "the Force" yn cael ei ddefnyddio i
sôn am yr heddlu, ond dydi "y Llu" ddim yn cael ei ddefnyddio felly.
Dwi'n meddwl y byddai'n haws anghofio trio efelychu'r gair mwys a dweud
yn syml "Sefwch dros ddewrder, sefwch dros bawb..." ac ati.
Geraint
Ar 30/08/2019 12:19, ysgrifennodd Claire Richards:
> Problem defnyddio geiriau mwys neu eiriau ag ystyron lluosog yn Saesneg mewn sloganau...
>
> (Tydi "Be a force for courage" ddim yn gweithio yn Saesneg, chwaith, i mi.)
>
> Yr unig beth y gallaf i ei awgrymu yw defnyddio 'llu' - Dewch yn llu i wasanaethu'n ddewr, Dewch yn llu i wasanaethu pawb, Dewch yn llu i wasanaethu'r gymuned.
>
> Fe all weithio os ydyn nhw eisiau recriwtio nifer o swyddogion.
>
> Claire
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
> Sent: 30 August 2019 11:57
> To: [log in to unmask]
> Subject: Force
>
> Helo bawb!
>
> Mae gen i negeseuon sy'n ymwneud a^ recriwtio swyddogion heddlu newydd. Mae pob un ohonynt yn cychwyn gyda "Be a force for" (Be a force for courage, be a force for all, be a force for the community ac ati).
>
> A yw "Byddwch yn rym er.." yn swnio'n iawn i chi? Neu a fyddai "Byddwch yn lu er..." yn well? Mae rhywun wedi awgrymu llu yn lle grym, ond sai'n hollol siwr os yw'n iawn rhoi 'llu' o ystyried y cyd-destun - mae'r neges yn cyfeirio at unigolyn yn hytrach na gwasanaeth heddlu. Aelod o lu falle, ond byddai hynny'n gwneud y frawddeg yn fwy.
>
> Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gyngor.
>
> Diolch yn fawr!
>
> Cofion gorau,
>
> Meinir
>
> ########################################################################
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>
> ########################################################################
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>
>
> ---
> This email has been checked for viruses by AVG.
> https://www.avg.com
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|