Os awn ni ar drwydd y gair 'ymatal' yn yr holl enghreifftiau a geir yn
GPC byddwch yn dod ar draws hwn - gras ymatal(iol) restraining grace,
imi ystyr 'prohibition signs' yw arwyddion sy'n eich atal rhag gwneud
rhywbeth - ac er bod 'arwyddion ymatal' yn swnio''n rhyfedd i glustiau
siaradwyr iaith gyntaf gallaf weld sut y byddai rhywun ail iaith yn
dod i'r casgliad mai dyna'r term cywir.
Os edrychwn ni yng nghorpws y Cynulliad mae'n amlwg bod ystyr ymatal
dipyn yn ehangach na'r hyn y mae GPC yn ei awgrymu - e.e. defnyddir
ymatal i gyfieithu 'to exercise restraint" a 'hold back' ac abstain ac
yn y bôn dyna beth mae'r arwydd yn ei ddweud 'peidiwch â gwneud hyn'
neu 'dylech ymatal rhag gwneud hyn', 'you should abstain from doing
this' - yn ei hanfod rwy'n credu (er nad dyna'r term y byddai'r rhan
fwyaf o siardwyr Cymraeg yn ei ddefnyddio) fod y cyfieithiad yn ddigon
cywir o ran pwrpas yr arwydd ac felly, byddwn yn fodlon ei gyfieithu
fel 'prohibition sign' ac yn fodlon amddiffyn y cyfieithiad hwnnw ar
sail yr enghreifftiau ehangach yng Nghorpws y Cynulliad.
M
On Thu, 4 Jul 2019 at 00:09, Sian Jones <[log in to unmask]> wrote:
>
> Oes modd cyfieithu yr hyn a fwriadwyd gan y myfyriwr gyda nodyn mewn cromfachau gan y cyfieithydd yn nodi'r hyn a roddwyd mewn gwirionedd?
> Er enghraifft: 'Prohibition Signs’ [Translators Note: Student used the term 'Abstention signs' in error].
>
> Ydy hynny'n dderbyniol?
> Sian
> ________________________________
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> on behalf of Gareth Jones <[log in to unmask]>
> Sent: 03 July 2019 22:47
> To: [log in to unmask]
> Subject: Cyfieithu gwaith cwrs
>
>
> Dwi wrthi’n cyfieithu samplau o waith cwrs yn ymwneud ag iechyd a diogelwch o’r Gymraeg i’r Saesneg i’w safoni gan gorff dyfarnu cymwysterau yn Lloegr, ac mae safon y gwaith ysgrifenedig braidd yn simsan mewn mannau.
>
>
>
> Mewn cyflwyniad PPT, mae un myfyriwr yn disgrifio arwyddion gwahardd, e.e. dim ysmygu, ond teitl y sleid ydy ‘Arwyddion Ymatal’. Dwi’n gwybod mai ‘Prohibition Signs’ ydy’r ystyr mae’r myfyriwr yn ceisio’i gyfleu, ond dydy ‘ymatal’ ddim yn golygu ‘prohibition’, nac ydy? Mi allai ‘arwyddion ymatal’ olygu ‘continence signs’, ‘moderation signs’, ‘abstention signs’ neu ‘self-restraint signs’.
>
>
>
> Pe bawn i’n defnyddio ‘prohibition signs’ yn y cyfieithiad, byddai safon y gwaith yn y cyfieithiad yn well na safon y gwreiddiol. Beth fyddech chi’n ei ddefnyddio wrth gyfieithu i’r Saesneg i gyfleu darlun teg o waith y myfyriwr yn yr achos hwn?
>
>
>
> Enghraifft arall ydy ‘siacedi uchel-weledigaeth’ – eto, dwi’n gwybod mai ‘high-visibility jackets’ sydd dan sylw, ond nid ‘visibility’ ydy ‘gweledigaeth’, naci? Beth fyddech chi’n ei ddefnyddio yn Saesneg i gyfleu’r union eiriau mae’r myfyriwr wedi’u defnyddio?
>
>
>
> Yr unig gyfarwyddiadau ydw i wedi’i gael ydy peidio mynd ati i adlewyrchu gwallau gramadegol a sillafu yn y cyfieithiad, ond dydy hynny ddim yn golygu cywiro termau gwallus wrth gyfieithu.
>
>
>
>
>
>
>
>
>
> Sent from Mail for Windows 10
>
>
>
>
> ________________________________
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>
>
> ________________________________
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|