Dyma ddiffiniad gwasanaeth gyrfaoedd Prifysgol Rhydychen o'r term: "Think tanks are research institutes that seek to play a key role in making and influencing global, regional and national policy." Mae gwefan y gwasanaeth yn rhoi rhestr o'r sefydliadau hyn yn y DU yn ôl eu meysydd diddordeb a'u gogwydd gwleidyddol. https://www.careers.ox.ac.uk/think-tanks/
Mae rhestrau tebyg gan y Guardian, Wikipedia a Phrifysgol Newcastle, ymysg eraill.
Oes modd cadw'r gair 'melin' a chynnwys y gair 'syniadau' i gyfleu 'think'? Melin syniadau'?
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Jones
Sent: 20 June 2019 09:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Think tank
Ann Corkett:
> Geiriadur yr Academi: think-tank: seiat (f) ddoethion (seiadau doethion)?
> Fel dywedais ychydig ddyddiau'n ol, 'does neb yn meddwl am edrych yn
> Geiriadur yr Academi mwyach.
Ga i gynnig bod GyA wedi'n methu ni yma: mae sawl ystyr i "think-tank", ac nid yw seiat ddoethion na melin drafod yn cyfleu'r un sydd erbyn hyn yn gyffredin.
Cyfeiriad at yr ymennydd oedd y term yn wreiddiol, yn yr Unol Daleithiau a cyn y Rhyfel Mawr. Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif mae'r ystyr o seiat doethion wedi dod i fod. (Mae "Tortoise" yn defnyddio'r term "think-in" sydd ag arlliw o Haight Ashbury y chwedegau iddo, ond sydd hyd y gwn i yn enw cymharol newydd.)
Ond os yw'r "think-tank" yn cyflogi rhywun, mi hoffwn i gynnig mai'r trydydd ystyr, un ddaeth i fod ar ôl yr Ail Ryfel Byd sydd yma. Yn aml iawn mi fydd rhein yn ôl y cliché yn "right-wing think-tanks". Mae nhw'n cyhoeddi barn a cynnig cyngor ar sail ymchil (beth bynnag mae rhywun yn ei feddwl o safon a rhagfarn yr ymchwil). Nid seiat na melin mo'r Adam Smith Institute neu Legarum neu'r Bow Group neu Chatham House. Sefydliadau ymchwil ydyn nhw, ac mi gynigiwn i mai rhywbeth felly ddylai'r enw fod.
Yn yr ystyr hwn, mae arlliw o (rag)farn i'r enw think-tank sydd ddim yn "sefydliad ymchwil", ond wela i ddim ffordd amlwg o gyfleu hynny heb draethu'n helaeth.
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|