Diolch yn fawr iawn, Rhian. Fyddai hi ddim yn beth drwg 'tasen ni'n cael
copiau o'r negeseuon at Eleri James hefyd os na fydd hynny'n ormod o
drafferth.
Yn anffodus, ni fydd chwilio negeseuon y Cylch yn dod ar draws popeth,
gan fod llawer o bobl wedi anfon atom yn breifat.
Diolch unwaith eto am eich help - ac am fynd i'r drafferth o nodi'r
gwallau yn y lle cyntaf.
Ann
On 04/06/2019 13:39, [log in to unmask] wrote:
> Helo Ann
> Drwy chwilio am 'cywiriad posib' yn negeseuon y Cylch dw i'n gweld mod i wedi tynnu sylw at un neu ddau o gamgymeriadau teipio yng Ngeiriadur yr Academi e.e. 'squelchy' - 'corlsyd' ('corslyd'?). Dw wedi anfon un neu ddau at [log in to unmask] yn ddiweddar hefyd.
> Hwyl
> Rhian
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
> Anfonwyd: Dydd Mawrth, 4 Mehefin 2019 12:34
> At: [log in to unmask]
> Pwnc: APEL - Cywiriadau i Eiriadur yr Academi
>
> Ryw ddeunaw mis yn ol, cefais anhap ar y cyfrifiadur a cholli rhai o'r ffolderi negeseuon 'roeddwn wedi'u creu. Un o'r ffolderi hyn oedd yr un lle cedwais gywiriadau yr oedd pobl wedi'u hanfon o dro i dro i Eiriadur yr Academi. Os ydych chi erioed wedi anfon cywiriad ataf, a fyddwch chi gystal a'i anfon eto, rhag ofn na chafodd ei nodi cyn i'r ffolder fynd ar goll?
>
> Byddai'n dda rhoi pennawd "Cywiriad - Geiriadur yr Academi" i'm helpu i'w ddidoli.
>
> Addawaf nodi'ch cywiriad yn fuan, yn lle dim ond creu ffolder newydd!
>
> Diolch yn fawr iawn.
>
> Ann
>
> ########################################################################
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>
> ########################################################################
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|