Mae Bruce a finnau'n synnu'n fawr nad yw hyn yn Geiriadur yr Academi,
nac wedi codi cyn hyn.
Clywais son flynyddoedd MAITH yn ol am hen wraig yn mynd at y trydanwr a
dweud bod angen "tafod" newydd yn y tegell!?
A fyddai twymwr yn gwneud y tro?
Mae'n debyg mai "component" yw "element" (arhosaf i rywun sy'n gwybod
rhagor fy nghywiro), felly mae'n debyg y *byddai* "elfen" neu
"cyfansoddyn" yn iawn. Hefyd, mae "element / elment" yn bodoli yn y
Gymraeg (gweler GPC) - efallai, meddai Bruce, byddai hynny cystal ateb a
dim.
Ydy Eurwyn Pierce Jones yn aelod o'r cylch - mae o'n gyfieithydd sydd
wedi gweithio fel trydanydd. Anfonaf gopi o'r neges hon ato, ond wn i
ddim a yw'r cyfeiriad yn dal yn iawn.
Ann
On 15/03/2019 20:52, Howard Huws wrote:
> "Element", offer trydanol ar gyfer cynhesu. "Elfen"?
>
> ########################################################################
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|